Â鶹ԼÅÄ

Dros hanner pobl Cymru dan 25 gyda gwrthgyrff Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cell coronafeirws gyda DNA a gwrthgyrffFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n cymryd dwy neu dair wythnos wedi haint neu frechiad i'r corff gynhyrchu digon o wrthgyrff i amddiffyn person rhag haint pellach

Mae gan dros hanner pobl Cymru sydd dan 25 oed wrthgyrff i'w hamddiffyn rhag Covid-19 erbyn hyn, yn ôl yr arolwg samplau gwaed diweddaraf.

Mae ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn amcangyfrif bod bron i 83% o boblogaeth Cymru bellach gyda gwrthgyrff.

Nod y samplau yw darganfod faint o bobl sydd â gwrthgyrff, naill ai yn sgil dal yr haint neu o ganlyniad i gael brechiad.

Fe allai'r gwrthgyrff - proteinau yn y gwaed sy'n adnabod ac yn ymosod ar heintiau penodol - helpu atal pobl rhag dal y feirws eto.

Mae'r arolwg yn adlewyrchu effaith y rhaglen frechu ond mae'r ONS yn pwysleisio nad yw canfod gwrthgyrff ynddo'i hun yn fesur pendant o imiwnedd yn dilyn brechiad.

Mae'r canlyniadau samplau'n cael eu diweddaru ddwywaith y mis ac mae'r arolwg diweddaraf yn amcangyfrif bod wyth o bob 10 oedolyn (82.7%) yng Nghymru gyda gwrthgyrff - cynnydd o'r ffigwr o 76.8% pythefnos yn ôl.

Dyma'r canrannau gyda gwrthgyrff y mae'r ONS yn eu hawgrymu o blith gwahanol oedrannau:

  • 16-24 oed - 54%

  • 25-34 oed - 65%

  • 35-49 oed - 84.4%

  • 75-79 oed - 98%

Mae canrannau Cymru'n uwch nag yng ngwledydd eraill y DU - 80.3% yn Lloegr, 79.9% yng Ngogledd Iwerddon a 72.6% yn Yr Alban.

O ran gwrthgyrff ymhlith pobl dan 25 oed, 52.5% yw'r amcangyfrif yn Lloegr, 32.3% yng Ngogledd Iwerddon a 37.7% yn Yr Alban.

Dywed yr ONS bod canran yr oedolion yng Nghymru sy'n profi'n bositif am wrthgyrff yn parhau i godi ymhlith pobl rhwng 16 a 49 oed, ac yn parhau'n uchel yn achos pobl sy'n o leiaf 50 oed.

Cafodd yr arolwg diweddaraf ei gynnal ymhlith 1,500 o bobl Cymru yn yr wythnos hyd at 23 Mai.

Pynciau cysylltiedig