Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Cofnodi 115 yn rhagor o achosion yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
canolfan brofi

Mae un person yn rhagor wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru, yn ôl ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Cafodd y farwolaeth ddiweddaraf ei chofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n gwasanaethu siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mae ICC hefyd wedi cofnodi 115 yn rhagor o achosion positif o Covid-19 ar draws Cymru.

Mae'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig, yn ôl dull cofnodi ICC, yn 5,572 a nifer yr achosion positif yn 213,757.

Mae'r gyfradd achosion dros saith niwrnod ar draws Cymru wedi codi eto i 15 am bob 100,000 o bobl.

Sir Conwy sy'n parhau â'r gyfradd achosion uchaf, sef 42.7 i bob 100,000.

Yn Abertawe mae'r gyfradd yn 29.6, ac mae'n 20.1 yng Ngwynedd.

Y siroedd gyda'r cyfraddau isaf yw Caerffili (2.3), Mynwy (5.3) a Phowys (6.0).

Mae 11,385 yn rhagor o bobl wedi cael brechiad cyntaf, sy'n dod â'r cyfanswm i 2,213,050 - sef 70% o'r boblogaeth.

Mae cyfanswm y bobl sydd wedi cael cwrs llawn bellach yn 1,378,010 (cynnydd o 41,531) sef 44% o boblogaeth Cymru.

Pynciau cysylltiedig