Â鶹ԼÅÄ

Comisiynydd y Gymraeg: Meddalwedd maleisus mewn e-bost

  • Cyhoeddwyd
Neges FacebookFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y neges gan Gomisiynydd y Gymraeg wedi'r ymosodiad ar Ragfyr 10

Mae'r heddlu a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn parhau i ymchwilio wedi "ymosodiad seibr difrifol" ar swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ym mis Rhagfyr.

Gwefan sydd gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts ers hynny, lle diolchir i ddefnyddwyr am eu "hamynedd".

Mae swyddfa Mr Roberts yn credu i'r ymosodiad ddigwydd "o ganlyniad i neges e-bost oedd yn cynnwys atodiad meddalwedd maleisus".

Mae'n pwysleisio bod y "gwaith yn parhau o safbwynt cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg".

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Lle roedd modd, cysylltwyd yn uniongyrchol ag unigolion a sefydliadau a allai fod wedi eu heffeithio" gan yr ymosodiad, ac ni dalwyd unrhyw swm o arian gan swyddfa'r Comisiynydd i'r sawl oedd yn gyfrifol.

'Risg'

Roedd datganiad blaenorol yn nodi: "Fel rheol rydym yn dal y lleiafswm posibl o ddata personol, hynny yw enw a manylion cyswllt, sef e-bost neu gyfeiriad post a rhif ffôn.

"Serch hynny, mae rhai achosion lle byddwn yn delio â materion sy'n ymwneud â chategorïau arbennig o ddata personol yn ogystal os ydynt yn berthnasol i'r mater o dan sylw. O ganlyniad i'r ymosodiad, mae risg y gall eich manylion gael eu rhyddhau yn gyhoeddus."

Maen nhw wedi comisiynu ymchwiliad allanol i ddadansoddi sut digwyddodd yr ymosodiad ac un arall i archwilio cadernid diogelwch y systemau newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Roberts wedi bod yn Gomisiynydd y Gymraeg ers mis Mawrth 2019

Ychwanegodd y llefarydd, "'Roedd gwaith ar y gweill eisoes - cyn yr ymosodiad - i ddiweddaru ein systemau Technoleg Gwybodaeth gan gynnwys creu gwefan newydd, ac roeddem wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2020-21 ar gyfer y gwaith hwn.

"Mae'r ymosodiad wedi golygu ein bod wedi gorfod ail-flaenoriaethu'r drefn yr oeddem wedi bwriadu ei dilyn ar gyfer yr uwchraddio, a'n bod wedi gorfod treulio peth amser yn adfer gwybodaeth. Rydym wedi llwyddo i adfer llawer fawr o wybodaeth erbyn hyn."

Pwysleisiodd y "gall y cyhoedd fod yn hyderus ein bod yma i ddelio ag unrhyw ymholiadau, cwynion, archebion, ceisiadau am wybodaeth neu ddogfennau".

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Mae'r mater yn parhau yn destun ymchwiliad gan dîm ymchwilio Uned Seiberdroseddu Rhanbarthol Tarian."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi darparu cefnogaeth i, ac wedi parhau i fod mewn cysylltiad â, staff Comisiynydd yr Iaith Gymraeg ynglŷn â'r mater hwn.

"Ni allwn roi sylw pellach ar hyn o bryd, gan fod y mater yn destun ymchwiliad gan yr heddlu."

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth eu bod "yn gwneud ymholiadau".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol