Clwstwr o achosion Covid-19 yn ardal Pontyberem

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai safleoedd lleol wedi cau'n wirfoddol a gweithgareddau wedi'u gohirio mewn ymateb i'r achosion
  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd Arbennig Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

Mae clwstwr o achosion coronafeirws wedi'u cadarnhau yn ystod yr wythnos ddiwethaf ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin.

Dywed y cyngor sir eu bod wedi "siarad â phobl a sefydliadau lleol am gyfyngu ar gynulliadau cymdeithasol yn yr ardal".

Mae'r sefyllfa'n cael ei monitro gan y bwrdd iechyd lleol.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Liam Bowen wrth Dros Frecwast fod "llawer o bryder yn y pentref am yr achosion a dylai pawb fod yn wyliadwrus ac yn ofalus".

Mewn datganiad brynhawn Mercher fe gadarnhaodd y cyngor sir mai 18 achos oedd wedi eu cofnodi, sy'n "gysylltiedig ag achlysuron cymdeithasol hysbys neu lle mae'r feirws wedi cael ei drosglwyddo rhwng pobl sy'n byw gyda'i gilydd".

Ychwanegodd y datganiad: "Mae'r rhan fwyaf o achosion yn effeithio ar bobl nad ydynt wedi cael eu brechu eto neu sydd ond wedi derbyn eu dos cyntaf."

'Yn falch o'r ymateb'

Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel gyda Chyngor Sir Gâr, fod "clwstwr bach o achosion Covid-19 yn gysylltiedig ag ardal Pontyberem".

"Fel rhan o'n hymdrechion olrhain, ac fel rhagofal, rydym wedi siarad â nifer o bobl ac wedi cysylltu â sefydliadau cymunedol a lleoliadau i geisio cyfyngu ar gynulliadau cymdeithasol yn yr ardal am y tro," meddai.

"Rydym yn falch o'r ymateb rhagweithiol gan y sefydliadau hyn sydd wedi atal digwyddiadau, sesiynau hyfforddi a gemau a gynlluniwyd o'u gwirfodd a allai ddenu cynulliadau cymdeithasol.

"Fel bob amser, rydym yn atgoffa pobl i gymryd cyfrifoldeb personol am ddilyn rheolau Covid-19 ynghylch pellhau cymdeithasol, hylendid dwylo a gwisgo gorchuddion wyneb yn ôl y cyfarwyddyd i amddiffyn eu hunain ac eraill."

Dywedodd Alison Shakeshaft o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod "profion ar gael yn lleol i unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws ac rydym mewn sefyllfa dda i ddarparu cyfleusterau profi ychwanegol yn yr ardal pe bai hyn yn cael ei ystyried yn angenrheidiol".