Â鶹ԼÅÄ

Gwario £25m ar offer diagnostig ond angen mwy o staff

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
offer newydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn croesawu'r offer newydd ond maen nhw galw am fwy o staff

Bydd £25m yn cael ei wario ar offer sy'n helpu dod o hyd i afiechydon gan gynnwys canser.

Nod Llywodraeth Cymru ydy ceisio lleihau rhestrau aros, ond mae 'na alwadau am ragor o arian i hyfforddi a recriwtio staff.

Mae dros hanner miliwn o bobl bellach yn aros am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y byddai £25m yn cael ei wario ar offer diagnostig, i helpu i atal "tagfeydd" wrth i gleifion aros i gael triniaeth canser.

"Mi fydd yna oedi, mae'r rhestrau wedi tyfu, ond gall bobl sy'n dioddef o ganser ddim aros," meddai'r Gweinidog Iechyd newydd.

"Dyna pam rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn mynd yn y lle iawn i gael gwared ar y tagfeydd hynny sydd wedi bod yn broblem i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn cael cyflwyniad i'r offer newydd yn Ysbyty Singleton

Mae ffigyrau diweddaraf yn dangos fod mwy o bobl nag erioed - 18% o boblogaeth Cymru - yn aros am driniaethau sydd wedi'u cynllunio o flaen llaw.

Roedd 568,367 o bobl ar restrau aros ym mis Mawrth, cynnydd o 24.4% ers yr un amser y llynedd.

Ym mis Mawrth bu'n rhaid i 16,381 o gleifion aros mwy nag wyth wythnos am sgan ar ôl i ymgynghorydd neu feddyg teulu ofyn am un.

Mae hynny bum gwaith yn uwch nag ar yr un pryd y llynedd, ond yn gwymp sylweddol ers y mis blaenorol (20,548 ym mis Chwefror 2021) wrth i fyrddau iechyd ddechrau mynd i'r afael â'r rhestrau aros wedi Covid-19.

Mae yna bryderon bod degau o filoedd o bobl wedi peidio â chysylltu â'u meddygon teulu oherwydd y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Sarah Gwynne y bydd yr offer newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr

Bydd y sganwyr CT newydd yn gwneud gwahaniaeth i gleifion yn ôl yr oncolegydd Sarah Gwynne, sy'n gweithio yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

"Mae'r hen un yn 10 oed, mae technoleg wedi symud ymlaen yn ddramatig iawn yn ystod y cyfnod hwnnw.

"Meddyliwch am y gwahaniaeth yn y lluniau ar ffôn symudol newydd o'i gymharu â'r un oedd ganddoch chi nôl yn 2011," meddai.

Radiolegwyr yn gadael

Mae 'na groeso i'r cyhoeddiad am yr offer gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR) ond maen nhw am weld mwy o staff yn defnyddio'r offer newydd.

"Mae'r offer yn mynd i wneud gwahaniaeth i gleifion," meddai Dr Toby Wells o'r RCR.

"Mae angen y peiriannau ond mae angen y radiograffwyr arnoch chi i dynnu'r delweddau, a radiolegwyr a meddygon i ddehongli'r hyn y mae'r sganiau'n ei ddangos - ac mae yna brinder o bob un o'r rheiny," meddai.

Mae'r RCR yn amcangyfrif bod angen i Gymru recriwtio 97 yn fwy o radiolegwyr i ateb y galw cynyddol.

Rhybuddiodd hefyd fod llawer o radiolegwyr yn bwriadu gadael GIG Cymru y flwyddyn nesaf tra bod y rhai sy'n aros yn bwriadu cwtogi eu horiau.

"Mae angen i ni ehangu'r gweithlu yn y maes hwn," meddai Dr Wells.

"Maen nhw wedi cychwyn ac maen nhw wedi rhoi'r pecyn hwn i ni ac maen nhw wedi ariannu mwy o gyfleon hyfforddi radioleg, ond mae angen mwy arnom ni."

Mae'r pryderon yn cael eu hadleisio gan Judi Rhys, Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus.

"Rydyn ni'n gwybod bod tua 35,000 o bobl yng Nghymru 'ar goll' o'r system ar hyn o bryd," meddai.

"Bydd offer diagnostig ychwanegol yn helpu i fynd i'r afael â'r rhestrau aros, ond mae angen i ni hefyd fuddsoddi mewn elfennau eraill o'r GIG, gan gynnwys y gweithlu."