Rob Roberts i wynebu ail gŵyn gan aelod staff benywaidd

Ffynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn yn wynebu ail gŵyn seneddol gan aelod o staff benywaidd.

Mae'r cyn aelod o staff seneddol wedi dweud y bydd yn gwneud cwyn annibynnol pellach am Rob Roberts os na fydd yn ymddiswyddo.

Mae negeseuon a welwyd gan Â鶹ԼÅÄ Cymru y llynedd yn dangos Mr Roberts yn gwahodd yr aelod staff i "gael ychydig o hwyl" gydag ef.

Mae cwyn arall a wnaed gan gyn gynorthwyydd seneddol Mr Roberts am gamymddwyn rhywiol yn ei erbyn wedi arwain at yr AS yn cael ei wahardd am chwe wythnos.

Y sefyllfa ar hyn o bryd yw y gall ddychwelyd fel AS wedi'r cyfnod yna o waharddiad.

Mae Mr Roberts wedi cael cais am sylw.

Yn Mehefin 2020 fe wnaeth cyn uwch-gynorthwyydd seneddol gwrywaidd Mr Roberts wneud cwyn camymddygiad rhywiol am yr AS i'r Cynllun Cwynion Annibynnol y Senedd (CCAS).

Cafodd y gŵyn ei hymchwilio gan banel annibynnol arbenigol a gafodd ei sefydlu i ddelio gyda chwynion o aflonyddu a bwlio yn erbyn ASau.

Daeth yr ymchwiliad i ben yr wythnos ddiwethaf gan argymell y dylai'r AS gael ei wahardd o'r senedd am chwe wythnos, ac fe gafodd hynny ei gymeradwyo gan y senedd. Ond ni fydd yr AS yn wynebu deiseb ail-alw - rhywbeth fyddai'n arwain at isetholiad os fyddai digon o'i etholwyr yn cefnogi hynny.

Disgrifiad o'r llun, Cyfres o negeseuon Rob Roberts at y fenyw 21 oed, a ddaeth i law Â鶹ԼÅÄ Cymru

Os yw AS yn cael ei wahardd gan Bwyllgor Safonau'r Senedd am fwy na 10 diwrnod, yna mae'n nhw'n wynebu deiseb ail-alw yn awtomatig.

Ond dyw'r un peth ddim yn wir am gosbau gan y panel annibynnol, ac mae sawl gwleidydd wedi galw hynny'n "ddihangfa cyfreithiol" ac yn galw am newid y gyfraith.

Nawr mae'r aelod o staff benywaidd y gwnaeth Mr Roberts yrru cyfres o negeseuon iddi yn Ebrill 2020 wedi dweud y bydd yn gwneud cwyn arall i CCAS os fydd yn parhau yn y senedd wedi ei waharddiad, ac fe allai hynny arwain at ymchwiliad arall.

Dywedodd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Mae wir yn ffieiddio nifer ohonom fod ganddo'r wyneb i aros yn ei swydd.

"Mae hefyd yn gwneud i ni deimlo'n anniogel y gall ddod nôl ymhen chwe wythnos a bod ar dir y senedd o hyd. Dydw i ddim yn gweithio yn y senedd bellach, ond rwy'n dal i weithio mewn gwleidyddiaeth ac mae'n anodd i mi wneud fy ngwaith weithiau oherwydd dwi'n dal i ddod ar ei draws."

Ychwanegodd bod llawer o bobl mewn gwleidyddiaeth wedi bod yn llafar am yr hyn ddigwyddodd, ond ei bod yn teimlo "nad oes di y gallwn ni wneud".

"Mae'n teimlo fel bod y system yn ein gadael i lawr ychydig. Dwi am wneud popeth y medra i i sicrhau fod y peth iawn yn digwydd, a hoffwn tasen i'n gwybod beth i wneud. Dwi am atal hyn rhag digwydd i unrhyw un arall fyth eto," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Jacob Rees Mogg y dylai Rob Roberts ystyried ymddiswyddo

Beth allai ddigwydd nesa?

Mae llywodraeth y DU wedi dweud bod "difrifoldeb" achos yr aelod staff gwrywaidd a'r 'ddihangfa gyfreithiol' a ddaeth i'r amlwg wedi dangos yr angen i adolygu a ddylai deisebau ail-alw gael eu cyhoeddi'n awtomatig am waharddiadau fel hyn yn y dyfodol.

Ond mae gwleidyddion amlwg wedi galw am ffyrdd o gael deiseb ail-alw yn achos Rob Roberts hefyd.

Dywedodd arweinydd TÅ·'r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg mai gadael fyddai'r "peth anrhydeddus" i AS Delyn ei wneud.

Fe wnaeth yr arweinydd cysgodol o'r blaid Lafur, Thangam Debbonaire ddweud ei bod wedi ysgrifennu at Mr Rees-Mogg yn cynnig cydweithio gydag ef i "gau'r ddihangfa gyfreithiol a chwilio am atebion".

Mae Llafur wedi dweud os na fydd Mr Roberts yn ymddiswyddo y byddan nhw'n chwilio am ffyrdd o'i orfodi i wneud hynny, gan gynnwys cyflwyno cynnig i ASau bleidleisio arno yn y senedd.

Fe wnaeth y blaid Geidwadol dynnu chwip y blaid oddi wrth Mr Roberts wedi ymchwiliad y panel annibynnol, ac ymddiheuro i'r unigolyn dan sylw.

Ond fe wnaeth y blaid gau eu hymchwiliad eu hunain i ymddygiad yr AS yn gynharach eleni gan ddweud ei fod wedi "cael cerydd" am ei ymddygiad "annerbyniol" ond y byddai'n parhau yn AS Ceidwadol.

Mae Mr Roberts wedi gwrthod gwneud sylw ar y galwadau am ei ymddiswyddiad, ond fe wnaeth ddatganiad pan ddaeth yr argymhelliad iddo gael ei wahardd am chwe wythnos sy'n dweud bod "y toriad ymddiriedaeth rhwng AS a staff yn gwbl amhriodol ac ni ddylai fod wedi digwydd".

Ond dywedodd ei fod yn bwriadu "gwasanaethu fy etholaeth fel yr wyf wedi gwneud yn y 18 mis ers fy ethol, a dyw'r canlyniad yma ddim yn newid fy mhenderfyniad i sicrhau fod pobl Delyn yn derbyn y cymorth y maen nhw ei angen gyda materion lleol pwysig".