'Edrych mla'n' wrth i berfformio byw ddechrau eto

Mae perfformiadau byw yn cael ailddechrau yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Bydd hi'n ofynnol i leoliadau wneud asesiadau risg llawn ac ufuddhau i ganllawiau lletygarwch a pherfformio.

"Dwi mor falch bod perfformiadau byw yn cael ailddechrau eto," medd Katie Hall o fand Chroma, "mae hi wedi bod yn gyfnod mor anodd."

Bydd yn rhaid i leoliadau hefyd gyfyngu grwpiau i uchafswm o chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol, defnyddio systemau unffordd a glynu at ganllawiau awyru.

Ffynhonnell y llun, Katie Hall

Disgrifiad o'r llun, "Mae hi wedi bod yn anodd peidio perfformio," meddai Katie Hall o'r band Chroma

Wrth ymateb ar Dros Frecwast dywedodd Katie Hall: "Ro'n ni mor chuffed i fod yn onest. Mae mor bwysig i'r bands, i'r sector gyfan gael gwybod bo ni'n gallu cael plan er mwyn dechrau gigs eto.

"Fi'n really edrych mla'n bod yn chwarae. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd - fel band ni wedi bod yn cael dwy gig yr wythnos.

"Ro'dd mynd o hynna i beidio 'neud gigs o gwbl yn anodd iawn i iechyd meddwl a phopeth arall hefyd."

Yn gynharach ym mis Mai fe gafodd tai bwyta a theatrau yr hawl i agor.

Yn ôl Bethan Elfyn, sy'n aelod o dasglu Llywodraeth Cymru ar y mater, mae hi'n sefyllfa ddyrys ac roedd rhaid gweithredu.

"Mae theatrau wedi bod yn cael ailagor ond doedd yna ddim canllawiau i bobl oedd yn bysgio ac yn y blaen, a'r hyn roedden ni wedi dechrau ei weld oedd cerddorion o Gymru yn mynd dros y ffin i gael gwaith - i Lundain a Bryste yn enwedig.

"Roedd y fath yna o beth yn dorcalonnus i'r diwydiant yng Nghymru ond bydd modd nawr perfformio'n fyw mewn lleoliadau o bob math."

Disgrifiad o'r llun, 'Roedd hi'n dorcalonnus gweld cerddorion o Gymru yn mynd i Loegr,' medd Bethan Elfyn, aelod o dasglu'r llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar ôl llawer o drafodaethau â'r sector, gallwn gadarnhau y gall perfformiadau byw ddychwelyd.

"Bydd angen asesiad risg llawn ar gyfer pob lleoliad yn unol â'r canllawiau sydd ar waith ar gyfer lletygarwch a'n canllawiau perfformio."

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae atal perfformiadau a digwyddiadau byw wedi bod yn ergyd fawr i'n lles cymdeithasol, economaidd a chelfyddydol.

"Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth i'n sectorau cerddoriaeth a chelfyddydau drwy ein Cronfeydd Adferiad Diwylliannol, Llawrydd a Chadernid Economaidd."

Mae'r llywodraeth wedi cadarnhau nad yw'r cyhoeddiad yn cynnwys clybiau nos.