Â鶹ԼÅÄ

Tokyo 2021: Sophie Ingle yr unig Gymraes yng ngharfan Prydain

  • Cyhoeddwyd
Sophie IngleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Sophie Ingle yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr dros Chelsea yn erbyn Barcelona ym mis Mai

Dim ond un Gymraes sydd wedi'i dewis yn nhîm pêl-droed Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Tokyo yr haf hwn.

Mae capten Cymru, Sophie Ingle wedi'i chynnwys mewn carfan o 18 a ddewiswyd gan yr hyfforddwr Hege Riise a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Olympaidd Prydain fore Iau.

Mae'r grŵp yn cynnwys 15 o chwaraewyr Lloegr a dwy o'r Alban. Nid oes unrhyw rai o Ogledd Iwerddon.

Dyma fydd yr ail dro i fenywod pêl-droed Prydain gystadlu mewn Gemau Olympaidd.

Manchester City yw'r clwb gyda'r nifer fwyaf o gynrychiolwyr yn y garfan gyda 11.

Mae Ingle yn chwarae fel amddiffynnwr gan amlaf dros ei gwlad, ond mae'n aml yn ymddangos ynghanol y cae i Chelsea, a gollodd i Barcelona o 4-0 yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn gynharach fis Mai.

Does dim lle ymhlith y rhai wrth gefn hyd yn oed i Gymry fel Angharad James, Jess Fishlock a Natasha Harding.

Carfan bêl-droed merched Tîm GB

³Òô±ô-²µ±ð¾±»å·É²¹¾±»å: Karen Bardsley (Man City/Lloegr), Ellie Roebuck (Man City/Lloegr).

Amddiffynwyr: Millie Bright (Chelsea/Lloegr), Lucy Bronze (Man City/Lloegr), Rachel Daly (Houston Dash/Lloegr), Steph Houghton (Man City/Lloegr), Demi Stokes (Man City/Lloegr), Leah Williamson (Arsenal/Lloegr).

Canol cae: Sophie Ingle (Chelsea/Cymru), Kim Little (Arsenal/Yr Alban), Jill Scott (Man City/Lloegr), Keira Walsh (Man City/Lloegr), Caroline Weir (Man City/Yr Alban).

Blaenwyr: Lauren Hemp (Man City/Lloegr), Fran Kirby (Chelsea/Lloegr), Nikita Parris (Lyon/Lloegr), Georgia Stanway (Man City/Lloegr), Ellen White (Man City/Lloegr).

Wrth gefn: Sandy MacIver (Everton/Lloegr), Lotte Wubben-Moy (Arsenal/Lloegr), Niamh Charles (Chelsea/Lloegr), Ella Toone (Man Utd/Lloegr).