Â鶹ԼÅÄ

'Colli ffocws' wrth ganoli gwasanaethau fasgiwlar y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd

Mae galw ar Weinidog Iechyd newydd Cymru i beidio canoli gwasanaethau fasgiwlar y gogledd ar ôl i adroddiad gwestiynu'r symudiad.

Dywed Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr bod y ffocws wedi ei "golli rywfaint" ar ôl canoli gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd, gydag unedau llai ym Mangor a Wrecsam.

Dywedodd Aelod o'r Senedd Arfon, Siân Gwenllian wrth raglen Newyddion S4C, bod angen i Eluned Morgan "ymyrryd ar frys" ac ailsefydlu'r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd.

Ychwanegodd "bod yr ailstrwythuro heb weithio".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei fod "wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fasgwlaidd priodol yn nhri phrif ysbyty'r gogledd.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "disgwyl i'r bwrdd iechyd alluogi pob claf gael mynediad i driniaethau a chefnogaeth".

Beth mae'r adroddiad yn ei ddweud?

Wedi cwynion gan ofalwyr, cleifion a gweithwyr, fe ofynnodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr i adolygu gwasanaethau fasgiwlar, sy'n delio gyda chylchrediad y gwaed o amgylch y corff.

Mae'r adroddiad yn codi nifer o bryderon.

Un canfyddiad yw bod gormod o gleifion yn cael eu hanfon at yr 'hyb' yn Ysbyty Glan Clwyd, hyd yn oed lle gallai'r rheiny fod yn cael eu trin yn fwy lleol.

Roedd hefyd diffyg gwelyau arbenigol yng Nglan Clwyd a dryswch ynghylch argaeledd llawfeddygon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân Gwenllian AS am i'r Gweinidog Iechyd newydd "ymyrryd ar frys"

Cafwyd cyfanswm o 22 o argymhellion i wella - naw o'r rheiny yn "argymhellion brys er mwyn mynd i'r afael â risg diogelwch cleifion".

Y flaenoriaeth yw sefydlu gweithdrefnau i sicrhau triniaeth effeithiol ac amserol i gleifion.

Ond yn ôl Ms Gwenllian, mae angen i'r Gweinidog Iechyd fynd ymhellach.

"Efo trydydd adroddiad yn dweud yr un stori, dwi'n meddwl bod angen tynnu llinell o dan yr hyn sydd wedi digwydd ac ailsefydlu y gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd, cydnabod nad ydy'r aildrefnu yma wedi gweithio a mynd 'nôl at y sefyllfa oedd gynnon ni cyn hyn i gyd," meddai.

"Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd newydd, Eluned Morgan i ymyrryd ar frys ac i ddechrau ailsefydlu'r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd."

Teulu claf fu farw 'eisiau atebion'

Fe wnaeth un gyfreithwraig ddatgelu wrth raglen Newyddion S4C ei bod hi'n poeni y gallai'r ailstrwythuro fod yn ffactor ym marwolaeth claf oedd dan ofal gwasanaethau fasgiwlar Ysbyty Glan Clwyd yn 2019.

Dywedodd Eleri Griffiths o gwmni Watkins & Gunn: "Ar hyn o bryd ni'n gweithredu dros deulu yn anffodus 'nath golli rhywun yn Ysbyty Glan Clwyd ac oedd dan ofal y gwasanaethau fasgiwlar.

"Mae'r mater gyda'r crwner a bydd e'n edrych os oes cysylltiad rhwng y farwolaeth yma a beth sydd yn digwydd o fewn gwasanaethau fasgiwlar ar hyn o bryd. Ni hefyd wedi gofyn i'r crwner edrych ar faterion ehangach hefyd.

"Ni'n gw'bod bod aelodau'r cyhoedd hefyd yn bryderus.

"Mae straeon wedi bod yn y cyfryngau o'r blaen, mae problemau wedi bod yna, ni'n gw'bod bod y cyngor iechyd cymuned wedi ysgrifennu adroddiad am y problemau, a ni nawr yn gwybod bod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi ysgrifennu adroddiad annibynnol hefyd.

"Mae'r teulu eisiau atebion a gw'bod pam 'nath aelod o'u teulu nhw farw."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Bethan Russell-Williams ymddiswyddo o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fel protest

Dwy flynedd yn ôl, ymddiswyddodd Bethan Russell-Williams o fwrdd Betsi Cadwaladr am fod ganddi bryderon am ailstrwythuro'r gwasanaeth fasgiwlar.

Mae hi hefyd yn dweud bod yr adroddiad yn brawf bod canoli'r gwasanaeth fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd wedi bod yn fethiant.

"Mae 'na bedair tudalen o argymhellion... mae hynny'n d'eud 'tha chi fod 'na rywbeth mawr o'i le," meddai.

"Mae'r rhagolygon yn giami iawn faswn i'n dd'eud i gleifion fasgiwlar yng ngogledd Cymru os mai dyna'r gwasanaeth gorau y gellid ei gynnig gan uned newydd sbon... siomedig dros ben."

'Cydnabod bod angen mwy o waith'

Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae'r adolygiad yn ailadrodd y natur frys y mae'n rhaid i ni weithredu i sefydlu model priodol prif ganolfan a changhennau er mwyn osgoi peryglu diogelwch cleifion, a oedd yn risg arwyddocaol ar y pryd.

"Rydym yn falch bod yr ymrwymiad llethol gan bawb oedd yn rhan o wella'r gwasanaeth wedi cael ei gydnabod a bod 'sylfaen rhagorol' yn ei le i barhau i ddatblygu a gwella gwasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru.

"Rydym yn cydnabod bod angen mwy o waith, yn enwedig i barhau i ddatblygu ein llwybrau ar gyfer cleifion fasgwlaidd a diabetig fel y gallwn ddarparu'r canlyniadau gorau yn y lle iawn.

"Rydym yn dal wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fasgwlaidd priodol ym mhob un o'r tri ysbyty llym yng ngogledd Cymru."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n falch bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gofyn i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon i adolygu'r gwasanaeth.

"Ry'n ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd alluogi pob claf gael mynediad i driniaethau a chefnogaeth."