Dau o bob tri yng Nghymru gyda gwrthgyrff Covid-19

Ffynhonnell y llun, SCIENCE PHOTO LIBRARY

Mae arolwg diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn amcangyfrif bod bron i ddau o bob tri pherson yng Nghymru gyda gwrthgyrff erbyn hyn sy'n helpu eu hamddiffyn rhag Covid-19.

Mae'r arolwg, oedd ar sail samplau gwaed bron i 1,000 o bobl, yn awgrymu bod 63.2% gyda gwrthgyrff, ond mae'r ganran yn uwch ymhlith y grwpiau oedran hÅ·n.

Mae bodolaeth gwrthgyrff yn awgrymu bod person naill ai wedi dal y feirws yn y gorffennol neu wedi cael eu brechu rhagddo.

Yn achos y grwpiau oedran ieuengaf, sydd ond wedi dechrau cael eu brechu yng Nghymru, mae'r ONS yn amcangyfrif bod 38% o unigolion 16 - 24 oed â gwrthgyrff.

Mae'r ganran yn codi i 47.% yn achos unigolion rhwng 35 a 49, ac mae'n sylweddol uwch ymhlith pobl hÅ·n, a gafodd eu blaenoriaethu wrth gynnig brechiadau:

  • 81.7% o blith pobl yn eu 50au;
  • o leiaf 81% o blith pobl yn eu 60au; a
  • 90.4% o blith pobl sy'n o leiaf 80.

Mae'r arolwg hefyd yn manylu o ran oedrannau unigol, gan amcangyfrif bod 20.4% o'r unigolion 16 oed â gwrthgyrff, a 39.4% o bobl 25 oed.

Mae hefyd yn dangos bod 66.4% o ferched gyda gwrthgyrff, o'i gymharu â 59.7% o ddynion, ac mae'r bwlch hwnnw ar ei fwyaf o fewn y grwpiau oedran ieuengaf.

Patrwm clir

Mae gwrthgyrff yn gallu atal pobl rhag cael eu heintio eto ond does dim prawf hyd yn hyn sut maen nhw'n effeithio ar y siawns o ddal y feirws.

Unwaith y mae rhywun yn cael yr haint neu'r brechiad, mae lefelau isel o'r gwrthgyrff yn parhau yn y gwaed ac fe allai'r lefelau hynny leihau dros amser.

Dywed yr ONS bod yna batrwm clir ar draws holl wledydd y DU rhwng brechu a chofnodi gwrthgyrff Covid "ond dyw canfod gwrthgyrff ynddo'i hun ddim yn fesur pendant o'r imiwnedd yn sgil brechiad".

Dyw'r arolwg ddim yn cynnwys trigolion cartrefi gofal.