Anghyfiawnder is-bostfeistr yn 'hunllef' i deulu o F么n

Disgrifiad o'r fideo, Gweld ei g诺r yn mynd i'r carchar oedd "y pwynt isa'" meddai Eira Thomas
  • Awdur, Anna Marie Robinson
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Mae gwraig is-bostfeistr o F么n a gafodd ei garcharu ar gam wedi siarad am y tro cyntaf am ei phrofiad o weld ei g诺r yn mynd i'r carchar, gan wybod ei fod yn ddieuog.

Dywed Eira Thomas, o Gaerwen, bod y teulu wedi bod drwy hunllef oherwydd y ffordd mae Swyddfa'r Post wedi trin ei g诺r, Noel.

Llwyddodd Mr Thomas i adfer ei enw da ar 么l achos yn y Llys Ap锚l yn Llundain bythefnos yn 么l.

"Roedden nhw'n gwybod bod o ddim 'di cymryd y pres. Oedd ganddon ni gar second hand," meddai Mrs Thomas.

"Byswn i ddim yn gweithio iddyn nhw eto ar 么l y ffordd ma nhw 'di drin o - byswn i ddim."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r anghyfiawnder wedi bod yn hunllef i Noel ac Eira Thomas, a'u merch Sian hefyd

Cafodd Noel Thomas, cyn-gynghorydd Plaid Cymru, ei garcharu yn 2006 am gadw cyfrifon ffug fel is-bostfeistr yng Ngaerwen.

Mynnodd ei fod yn ddieuog o'r cychwyn, gan honni mai nam ar system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post, Horizon, oedd ar fai.

Roedd yn meddwl mai ef oedd yr unig un nes i raglen materion cyfoes y 麻豆约拍, Taro Naw, ymchwilio yn 2009 a dod ar draws 30 o bobl eraill oedd yn dweud union yr un peth.

Daeth sylw gan raglenni Saesneg adnabyddus yn ddiweddarach, gan gynnwys Panorama yn 2015.

Disgrifiad o'r fideo, Fe wnaeth Noel Thomas gyfweliad emosiynol gyda 麻豆约拍 Cymru wedi'r achos yn y Llys Ap锚l

Ar 么l blynyddoedd o frwydro roedd llawenydd y tu allan i'r Llys Ap锚l yn Llundain bythefnos yn 么l pan gafodd euogfarnau'n erbyn Mr Thomas a 38 o is-bostfeistri eraill eu dileu.

"Mae hi wedi bod yn 16 mlynedd, ac am y pedair blynedd gyntaf ro'n i'n meddwl mai fi oedd yr unig un," meddai Mr Thomas tu allan i'r llys ar 么l clywed y dyfarniad.

Roedd nifer wedi eu carcharu ar gam, dwsinau wedi colli eu bywoliaeth, a dros 700 wedi cael eu herlyn gan Swyddfa'r Post rhwng 2000 a 2014.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Noel Thomas a'i ferch Sian y tu allan i'r llys yn Llundain ar 么l y dyfarniad bythefnos yn 么l

Dyma'r achos mwyaf o anghyfiawnder yn hanes Prydain ac mae disgwyl y bydd rhagor yn clirio eu henwau mewn amser, ond ni fydd yn cael gwared ar y creithiau sydd ganddyn nhw ers 15 mlynedd.聽

"'Naeth Sian y ferch ffonio o'r achos llys [cyntaf yng Nghaernarfon] a dyma dd'wedodd hi - 'di dad ddim yn dod adre'. O'n i'm yn dallt be' o'dd hi'n feddwl," meddai Mrs Thomas.

Doedd neb wedi disgwyl y byddai Mr Thomas yn cael ei ddedfrydu i naw mis dan glo.

Roedd wedi cael ei berswadio i dderbyn "deal" gan ei gyn-gyflogwyr i bledio'n euog i gadw cyfrifon ffug a pheidio rhoi bai ar system Horizon er mwyn osgoi mynd i'r carchar am ddwyn.

"Pan aeth o i j锚l oedd y pwynt isa'. Oeddan nhw yn ei ddangos o ar y teledu yn mynd i'r fan fawr 'na. Mi griais i' mhen i ffwrdd," meddai Mrs Thomas.

"O'n i'n meddwl 'Ti ddim i fod yn fa'na Noel bach, ti fod adre efo ni'."

'Disgyn o dop yr ysgol i'r gwaelod'

Roedd bod yng Ngharchar Kirkham ger Preston dros y Nadolig a'i ben-blwydd yn 60 oed yn ddigon drwg, ond dod adref ar 么l cwblhau ei ddedfryd i wynebu'r bywyd gwahanol oedd o'i flaen o oedd y peth anoddaf, meddai Mr Thomas.

"Oeddach chi 'di disgyn o dop yr ysgol i'r gwaelod," meddai.

"'O'n i'n ennill 拢30,000 fel is-bostfeistr a rhwng 拢11,000 a 拢15,000 fel cynghorydd. Oeddach chi yn colli hwnna i gyd.

"Oeddach chi'n colli eich parch, a natur pobl oedd 'ma hwnna 'di dwyn'.

"Mi gefais i fo ar 么l dod adre o j锚l a mynd i Asda rhyw ddiwrnod a rhywun yn gweiddi dros y lle, 'gwatchwch, mae'r lleidr 'di cyrraedd'."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Edwin, Sian ac Arfon, plant Noel ac Eira Thomas

Mae Eira a Noel Thomas yn briod ers 52 o flynyddoedd. Llynedd fe gollon nhw eu mab hynaf, Arfon, yn 51 oed, ar 么l salwch byr.

"Posti oeddan ni yn ei alw fo, am bo' fi 'di bod yn y post," meddai Mr Thomas.

"Mi fyswn i 'di licio ei weld o efo fi yn Llundain, bysan ni wedi bod yn si诺r o ffeindio rhywle i ddathlu, achos fydda Posti yn licio ei beint."

'Oll dwi isio ydy fy mhres yn 么l'

Mae Noel Thomas bellach yn 74 ac yn dal i weithio mewn canolfan arddio leol - wedi gorfod gwneud ar hyd y blynyddoedd ar 么l colli ei fywoliaeth.

Mae Swyddfa'r Post wedi cael gorchymyn i dalu 拢58m o iawndal ond dim ond 拢12m sydd ar 么l i'w rannu rhwng 550 ohonyn nhw ar 么l talu'r costau cyfreithiol. A fydd iawndal yn gysur?

"Na, fydd dim really yn gysur. Yr unig beth dwi 'di ofyn amdano o'r dechrau ydy fy mhres yn 么l," meddai Mr Thomas.

"Dwi' di neud y sym lawer gwaith, ag mi golles i tua chwarter miliwn - fy mhensiwn a ballu - ac felly cael fy mhres yn 么l ydy'r peth cynta'.

"Os daw 'na fwy, nai ddim ei wrthod o. Mae gen i dri o blant ifanc yn y teulu a 'da ni newydd ddod yn hen daid a nain ac felly dwi'n gobeithio 'neith o helpu'r rheiny."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Eira a Noel Thomas ar achlysur dathlu eu priodas aur ychydig flynyddoedd yn 么l

Ac felly gorfoledd ar y naill law - a newid byd ar y llall - i'w ferch Sian hefyd, sydd wedi bod wrth ei ochr o'r cychwyn cyntaf.

"Nes i roi fy mywyd ar hold mewn ffordd i drio cael cyfiawnder iddo fo, gwerthu fy nh欧 a symud i mewn atyn nhw i gefnogi nhw a dwi yma byth," meddai Si芒n.

"Dwi 'di bod yn ysgrifenyddes i dad ar hyd y blynyddoedd, yn helpu efo pethau fel Zoom a ballu achos 'di o ddim yn dallt nhw.

"Dwi'n gobeithio gawn nhw iechyd r诺an, mae ganddyn nhw lot o gariad, a dwi isio iddyn nhw gael llonydd."

Maen nhw'n bwriadu dathlu gyda'u teulu estynedig a chyfeillion pan fydd yn ddiogel iddyn nhw gymysgu yn rhydd - gyda'r gwir wedi ei gydnabod yn gyhoeddus o'r diwedd - ei fod yn ddieuog o unrhyw drosedd.