Â鶹ԼÅÄ

Angen i app Covid 'fod ar draws y DU' medd Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
NHS app
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r app GIG yn cael ei ddefnyddio i wneud apwyntiadau yn Lloegr, ond nid yw'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru

Rhaid i gynllun am app a fyddai'n caniatáu i bobl ddangos eu statws brechu Covid fod ar waith ar draws bob rhan o'r DU, medd y prif weinidog Mark Drakeford.

Roedd yn ymateb i sylwadau gan yr Ysgrifennydd Cludiant, Grant Shapps, a ddywedodd bod swyddogion yn gweithio ar app o'r fath.

Mynnodd y prif weinidog y byddai'n rhaid i app gydymffurfio gyda deddfau Cymru a bod yn ddwyieithog.

Cafodd llywodraeth y DU gais am sylw.

Dywedodd Mr Shapps bod llywodraeth y DU yn "gweithio ar app GIG" a fyddai'n gallu dangos "eich bod wedi cael y brechlyn, neu eich bod wedi cael prawf".

"Rwy'n gweithio yn rhyngwladol gyda phartneriaid ar draws y byd i sicrhau bod y system yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol," ychwanegodd.

Dywedodd llywodraeth y DU bod app yr NHS - sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd - yn cael ei ystyried fel rhan o'r "llwybr digidol" i arddangos "statws Covid" unigolion.

Mae'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio ar ei thystysgrifau digidol eu hunain.

O dan gynlluniau presennol llywodraeth y DU fe fydd pobl yn Lloegr yn gallu ailddechrau teithio dramor o 17 Mai gyda system 'goleuadau traffig' i asesu risg teithio i wledydd penodol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod mewn trafodaethau gyda llywodraeth y DU ar y mater hwn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y dylai'r app fod ar gael "yn gyfartal i bob rhan o'r DU"

Dywedodd Mr Drakeford: "Ers wythnosau lawer yn ein cyfarfodydd wythnosol gyda Michael Gove a phrif weinidogion eraill y DU, rwyf wedi codi'r angen i sicrhau bod y datblygiad o app ar gael yn gyfartal ymhob rhan o'r DU.

"Yma yng Nghymru byddai'n rhaid iddo gydymffurfio gyda deddfau Cymru. Byddai angen iddo fod ar gael yn ddwyieithog.

"Mae gen i gyfarfod arall yn ddiweddarach ac rwy'n edrych ymlaen i glywed pa gamau sydd wedi'u cymryd."

Ychwanegodd: "Rhaid i'r datblygiad gynnwys swyddogion o lywodraethau ar draws y DU, a rhaid i'r canlyniad ganiatáu i bawb yn y DU weithredu gyda'n gilydd ar y mater.

"Os oes angen hyn i deithio dramor, a'ch bod yn teithio ar basport Prydeinig, yna dylai unrhyw un sy'n byw yn y DU gael mynediad cyfartal i'r adnoddau y bydd eu hangen er mwyn i deithio ddigwydd."

Pynciau cysylltiedig