Profion Covid: 'Lloegr wedi cael blaenoriaeth'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd cwmni Roche o'r Swistir yn gwadu bod ganddynt gytundeb gyda llywodraeth Cymru i gyflenwi profion Covid

Dywed pennaeth iechyd blaenllaw yng Nghymru ei bod hi'n amlwg bod llywodraeth y DU wedi rhoi blaenoriaeth i Loegr yn ystod Mawrth y llynedd wrth ddosbarthu profion Covid.

Mewn e-bost sydd wedi cael ei dderbyn gan Channel 4 News, dywed Tracey Cooper o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod cwmni cyflenwi Roche wedi cael cais i "gadw" profion ar gyfer Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddynt gytundeb gyda chwmni Roche, i ddarparu 5,000 o brofion y dydd ym Mawrth 2020, ond mae'r cwmni wedi gwadu cael cytundeb o'r fath.

Mae llywodraeth y DU yn gwadu bod profion wedi cael eu dosbarthu yn annheg.

'Siomedig'

Ym Mawrth y llynedd daeth i'r amlwg bod y cytundeb a ffurfiwyd gan lywodraeth Cymru gyda chwmni cyflenwi i ddarparu 5,000 yn rhagor o brofion y dydd wedi mynd i'r gwellt.

Dywedodd llywodraeth Cymru ei bod yn siomedig nad oedd y cwmni, a enwyd yn ddiweddarach, wedi gallu anrhydeddu'r cytundeb ysgrifenedig.

Ond yn ddiweddarach dywedodd cwmni Roche nad oedd cytundeb o'r fath yn bodoli ac yna roedd Cymru yn derbyn profion fel rhan o gynllun dosbarthu y DU.

Yn wreiddiol ar 21 Mawrth dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y byddai gan lywodraeth Cymru fynediad i 6,000 o brofion y dydd erbyn 1 Ebrill ac 8,000 y dydd o fewn wythnos wedi hynny.

Ond fe gafodd y targedau eu hadolygu wedi cyhoeddiad Roche a chafwyd gwared ar y bwriad o gael 9,000 o brofion y dydd erbyn diwedd Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Senedd TV

Disgrifiad o'r llun, Tracey Cooper (canol y rhes waelod) yn cael ei holi'r llynedd gan aelodau'r Senedd am brofion Covid

Ym mis Mai, dywedodd Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) Tracey Cooper, wrth ASau bod ICC wedi trafod gyda chwmni Roche y bwriad i sicrhau 5,000 o brofion y dydd yng Nghymru ond fe awgrymodd nad oedd y profion wedi cyrraedd wedi i lywodraeth y DU ymyrryd.

Ym Mehefin fe wnaeth gweinidogion Cymru wrthod cyhoeddi'r ohebiaeth rhyngddyn nhw a chwmni Roche am y cytundeb gan y byddai hynny yn "debygol o effeithio ar y berthynas rhyngddyn nhw a llywodraeth y DU".

Ond mewn e-bost sydd wedi dod i law Channel 4 drwy gais rhyddid gwybodaeth mae Dr Cooper yn hysbysu prif swyddogion iechyd Cymru bod ICC wedi bod mewn trafodaethau gyda Roche ers 2 Mawrth 2020.

Yn yr e-bost dyddiedig 20 Mawrth 2020 mae'n dweud bod "trafodaethau wedi symud ymlaen" ond "bod hi'n anodd cael cytundeb ysgrifenedig".

Ychwanega ei bod wedi cael ar ddeall bod Roche wedi cael eu galw i gyfarfod llywodraeth y DU ac ry'n yn deall ei bod wedi "cael gorchymyn i gadw y profion ychwanegol ar gyfer Lloegr ac yna ffurfio cytundebau gyda [gweinyddiaethau datganoledig].

Mae Dr Cooper yn dweud bod hyn wedi cael ei gadarnhau yn hwyrach gan un o gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi i'r person hwnnw cael y gwaith o ffurfio cytundeb rhwng llywodraeth y DU a Roche.

Mewn e-bost arall mae Dr Cooper yn cyfeirio at "daro bargen" gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr a oedd yn golygu bod darn o offer o Wasanaeth Gwaed Cymru yn cael ei gyflenwi i Loegr yn gyfnewid am "ddim llai na 5,000 o brofion" i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae profi wedi bod yn rhan allweddol o frwydr llywodraeth Cymru yn erbyn yr haint

Ond wrth ysgrifennu at brif swyddogion iechyd Cymru mae Dr Cooper yn dweud bod Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi "ymyrryd" yn archeb Cymru ac wedi dweud wrth gwmnïau bod yn rhaid i bob prawf gael eu hanfon i adrannau yn llywodraeth y DU ar gyfer eu dosbarthu.

Mae Dr Cooper yn honni bod llywodraeth y DU yna "wedi rhoi blaenoriaeth i Loegr" wrth ddosbarthu profion.

'Sgandal genedlaethol'

Wrth ymateb dywed arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod ymdrechion Cymru yn erbyn Covid wedi cael eu "tanseilio'n fwriadol gan lywodraeth y DU yn ystod misoedd cyntaf y pandemig".

"Mae hyn yn sgandal genedlaethol ac yn dangos dirmyg San Steffan tuag at Gymru," meddai.

"Ry'n angen gwybod ar frys pam bod llywodraeth Lafur Cymru wedi cadw'n dawel yn hytrach na siarad yn agored am weithredoedd niweidiol llywodraeth Geidwadol y DU."

Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru wedi cael cais i ymateb.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol llywodraeth y DU: "Dyw hi ddim yn wir bod profion wedi cael eu dosbarthu yn annheg ar ddechrau'r pandemig a bod anghenion profi Lloegr wedi cael blaenoriaeth.

"Ym Mawrth 2020 fe gytunodd pedair gwlad y DU ar gynllun profi, gan gynnwys Cymru. Fe wnaeth hyn gynyddu gallu prynu y DU gan sicrhau yr adnoddau oedd eu hangen ar gyfer pob gwlad.

"Mae'r cynllun profi ar draws y DU wedi bod yn ganolog i strategaeth brofi'r llywodraeth gyda phrofion yn cael eu dosbarthu yn deg fesul y boblogaeth er mwyn sicrhau tegwch i bob gwlad."