Â鶹ԼÅÄ

Colli staff swyddfa 'i ddiogelu' Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cystadleuwyr o'r gorffennol

Mae nifer y staff yn swyddfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gostwng o chwech i dri o ganlyniad i effaith y pandemig ar y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd fod dim dewis ond adolygu costau ac ailstrwythuro "i ddiogelu dyfodol yr Eisteddfod".

Bu'n rhaid canslo gŵyl y llynedd ac mae trefnwyr yn trefnu Eisteddfod sy'n gyfuniad o ddigwyddiadau ar-lein ac ar lwyfan eleni.

Mae'r cyfyngiadau coronafeirws yn gwneud hi'n amhosib cynnal y digwyddiad torfol arferol ac i bobl deithio o wledydd eraill i gymryd rhan.

Mae'n golygu bod tîm craidd o chwe swyddog wedi cael ei dorri i dri. Mae dau o'r swyddi wedi cael eu llenwi a bydd y drydedd swydd yn cael ei hysbysebu yn yr wythnos nesaf.

"Mae impact y pandemig wedi bod yn ddinistriol i ni fel corff," meddai'r llefarydd.

"Doedd gyda ni ddim opsiwn ond adolygu ein costau ac ailstrwythuro i ddiogelu dyfodol yr Eisteddfod.  

"Rhaid pwysleisio nad yw'r toriadau mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchiad o safon gwaith nac ymroddiad ein staff. Mae'n dilyn y sefyllfa ariannol sydd wedi codi yn sgil y pandemig Covid-19. "

Mae aelodau bwrdd yr Eisteddfod, meddai, "wedi edrych ar bob ffynhonnell bosib o arian i ddiogelu gymaint o'r gweithlu â phosib".

Ychwanegodd: "Rydym wedi llwyddo i gadw tîm craidd o oruchwylio mannau allweddol o'n gwaith dros y flwyddyn nesa nes rydym mewn sefyllfa i ailadeiladu."