Pasbort Covid: 'Rhaid atal troi'n gardiau adnabod'

Disgrifiad o'r llun, Jane Dodds: "Mae posibilrwydd i hyn droi'n sefyllfa cardiau adnabod"

Ni ddylai cynlluniau ar gyfer pasbort Covid gael troi yn gardiau adnabod yn dawel bach, meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Dywedodd Jane Dodds y gallai'r syniad o basbort Covid arwain at wrthod mynediad i bobl i leoliadau a digwyddiadau yn eu cymunedau.

Mae pedair llywodraeth y DU yn edrych ar y syniad o gyflwyno dogfennau i bobl sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19, er mwyn cael mynediad i rai lleoliadau.

Er bod y syniad yn ddadleuol, mae wedi derbyn cefnogaeth gan rai cwmnïau adloniant.

Yn siarad gyda'r 鶹Լ, dywedodd Ms Dodds: "Mae'n rhaid bod rhywle i bobl gymryd rhan yn eu cymuned, i fynd i'r dafarn neu i leoliadau heb ddangos dogfen adnabod.

"Mae posibilrwydd i hyn droi'n sefyllfa cardiau adnabod a dydyn ni ddim eisiau hynny."

Dywedodd bod angen bod yn "synhwyrol" gan y gallai arwain at fusnesau'n gwrthod pobl o rai oedrannau.

"Gallwn ni fod mewn sefyllfa ble mae pobl gyda chyflyrau meddygol penodol ddim yn cael mynd i leoliad; geith eich partner fynd ond nid chi, ac mae angen rhannu gwybodaeth.

"Mae hynny'n mynd i roi llawer o bobl mewn sefyllfa anghyfforddus iawn."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amddiffyn yr un sedd y gwnaethon nhw ei hennill yn 2016 - Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Ni fydd Kirsty Williams, cyn-aelod yr etholaeth sydd wedi bod yn weinidog addysg ers pum mlynedd, yn sefyll eleni.

Mae Ms Dodds yn ymgeisydd rhanbarthol ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Dywedodd na fyddai'n camu i'r neilltu petai ei phlaid yn methu ag ennill sedd.

"Byddaf yn parhau fel arweinydd, yn sicr", meddai.

"Nid fy swydd i sy'n fy mhoeni, mae swyddi'r bobl sydd wedi dioddef yn y pandemig yn bwysicach."

Ychwanegodd bod y blaid wedi bodoli ers 150 o flynyddoedd, ac nad yw'n "mynd i unman".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo gwario mwy ar iechyd meddwl, rhoi hwb o £500m i'r Stryd Fawr a gwario £1bn ar newid hinsawdd.

Wrth drafod yr Undeb Ewropeaidd - gan fod y blaid wedi ymgyrchu i wrthdroi canlyniad y refferendwm yn ystod etholiad cyffredinol 2019 - dywedodd Ms Dodds bod yr amser yna wedi pasio, ac nad nawr oedd yr amser iawn i drafod yr ail-ymuno gyda'r UE.