Parseli bwyd i blant 'bob 10 munud' yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Mae banciau bwyd fel yr un yma yn Arfon wedi bod yn hynod o brysur ers y cyfyngiadau

Fe gafodd dros 54,000 o barseli bwyd eu rhoi i blant yng Nghymru dros gyfnod o 12 mis - yn ôl elusen flaenllaw.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Trussell, cafodd cyfanswm o 146,000 o barseli eu rhoi i oedolion a phlant rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021 - sy'n cyfateb i un parsel bob 10 munud ar gyfartaledd.

Mae'r Ymddiriedolaeth nawr yn galw ar y pleidiau gwleidyddol sy'n sefyll yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai i ymroi i weithio tuag at ddatblygu cynllun i gael gwared am yr angen sydd yna am fanciau bwyd.

Mae'r 146,000 o barseli yn gynnydd o 8% o'i gymharu â 135,000 o barseli gafodd eu dosbarthu'r flwyddyn flaenorol.

Mae'n 69% yn uwch na 2015/16.

Dywed yr Ymddiriedolaeth y gallai'r gwir ffigwr sydd mewn angen fod yn llawer mwy.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell nid yw'n fater o fwyd yn unig, mae yn ymwneud â pheidio bod ag arian ar gyfer y pethau elfennol o ganlyniad i ddiweithdra a phobl yn colli swyddi.

Dywedodd Susan Lloyd-Selby, rheolwr ymgyrchoedd Ymddiriedolaeth Trussell: "Ni ddylai unrhyw un wynebu'r gwarth cymdeithasol o fod angen cymorth brys i gael bwyd.

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ / Beagle Productions

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Ymddiriedolaeth yn gobeithio y bydd parseli bwyd yn rhywbeth fydd yn perthyn i'r gorffennol

"Ond eto mae ein rhwydwaith o fanciau bwyd led led Cymru yn parhau i ddarparu niferoedd uchel o barseli bwyd wrth i fwy a mwy o bobl geisio ymdopi heb ddim digon o arian ar gyfer nwyddau elfennol.

"Dyw hyn ddim yn iawn ond rydym yn gwybod y gallwn adeiladu dyfodol gwell."

Galwodd ar etholwyr i bwyso ar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd i roi ymroddiad tuag at weithio ar roi diwedd am yr angen am fanciau bwyd.

'Dylen ni ddim fod yn y sefyllfa hyn'

Ar raglen Dros Frecwast Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore Iau dywedodd Huw Evans, sy'n gwirfoddoli gyda banc bwyd Ystradgynlais, ei fod wedi gweld y cynnydd enfawr yn y galw gyda'i lygaid ei hun.

"Fi'n cofio pan o'n i wedi dechre gwirfoddoli gyda banc bwyd ym Mhontardawe, dros yr haf sawl blwyddyn yn ôl, dim ond fi oedd yna... achos do'n i ddim yn disgwyl gweld braidd neb o gwbl yn dod mewn drwy'r drws.

"Ond bellach... mae 'na ryw 15 o bobl yna'n ddyddiol bob dydd Mawrth a bob dydd Sadwrn achos y galw. Ac 'y ni'n gweld yr un peth yn Ystradgynlais ac yn Ystylafera hefyd.

"Ma' fe'n beth poenus tu hwnt i weld bod cymaint o bobl ag anghenion", meddai.

"Nag 'y ni'n sôn am hyn ddigon, sa' i'n credu, bod pobl - yn syml iawn - yn gorfod penderfynu 'ydyn ni'n rhoi bwyd ar eu platiau nhw neu ydyn ni'n gwario ar nwy neu egni?'.

"Ma' pobl yn embarrassed tu hwnt bo nhw'n gorfod dod mewn a gofyn am fwyd. Mae'n un o'r pethe sylfaenol mewn bywyd, yn dyw e.

"Ac ma fe'n druenus i weld bod pobl yn dal yn teimlo bo' nhw ddim yn gallu dod mewn - fi'n nabod sawl person sydd yn gwrthod dod i'r banc bwyd dim ond achos bo' nhw ddim yn teimlo bo nhw yn haeddu y fath o gefnogaeth, ac ma fe'n warthus.

"Mae 'na deuluoedd sydd angen bwyd, ac mae'r bwyd ar gael. A bydden i'n galw i unrhyw un sydd mas 'na, os ydych chi'n nabod rhywun, anfonwch nhw lawr at y banciau bwyd, achos dyna beth 'y ni'n 'neud."

Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?

Dywed Llafur Cymru eu bod am greu swyddi gwrdd newydd a "mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economeg lle bynnag maen nhw'n bodoli.

Maen nhw'n addo rhoi swydd, hyfforddiant neu gyfle hunan-gyflogedig i bawb dan 25 oed, yn addo adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon-isel i'w rhentu a hefyd sefydlu rhaglen addysg fydd yn sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar eu hol oherwydd y pandemig.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod wedi ymroi i "roi diwedd ar dlodi a chefnogi'r teuluoedd sy'n derbyn y cyflogau lleiaf."

Dywed y blaid y byddant yn adeiladu economi cryfach gan greu 65,000 o swyddi newydd.

Yn ôl llefarydd bydd cynnig cynllun i ddod allan o'r cyfnod clo ynghyd â rhewi treth y cyngor am ddwy flynedd yn rhoi help mawr i deuluoedd.

Dywed Plaid Cymru y byddant yn dod a thlodi plant i ben drwy ehangu cynllun prydiau ysgol am ddim, gan eu cynnig i bob plentyn cynradd erbyn diwedd eu tymor cyntaf mewn llywodraeth.

Byddant yn ymgeisio i roi taliadau cychwynnol o £10 i bob plentyn teuluoedd sy'n byw mewn tlodi, gan gynyddu hyn i £35 yn ystod eu tymor cyntaf mewn llywodraeth.

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, byddai ei phlaid yn ehangu cynllun prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i'r cyfnod ar ôl y pandemig, a byddant yn mynd i'r afael â llwgu, unigrwydd ac arwahanrwydd.

Ychwanegodd fod y blaid am helpu pobl allan o dlodi drwy gynlluniau fel gofal plant am ddim, creu swyddi gwyrdd ac mewn rhai amgylchiadau cael gwared ar ddyledion aelwydydd sy'n cael eu rhoi yn nwylo asiantaethau casglu arian.