Lansiad ymgyrch recriwtio'r Urdd wedi nawdd o £1.3m

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi dechrau "ymgyrch recriwtio genedlaethol" sy'n ganlyniad cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i "ailadeiladu i'r dyfodol" wedi'r pandemig.

Ddydd Llun, fe gyhoeddodd yr Urdd, sy'n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2022, , sy'n cynnig cyfleoedd ar draws Cymru i weithio ymhob un o'i hadrannau.

Cyn y pandemig, roedd yr Urdd yn cyflogi 320 o staff ond oherwydd effaith cyfyngiadau Covid-19 ar weithgareddau torfol bu'n rhaid colli 54% o'r gweithlu.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Mae 20 o'r swyddi newydd o fewn yr Adran Brentisiaethau, sy'n anelu at "ddatblygu a meithrin gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog".

"Mae dangos cefnogaeth i'r genhedlaeth iau yn bwysicach nac erioed," meddai Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis.

"Mae plant a phobl ifanc wedi'u heffeithio yn fwy na neb gan y pandemig, ac mae ein gwaith adfer yn canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi iechyd a lles ein hieuenctid, ynghyd â darparu cyfleoedd gwaith hanfodol a hyfforddiant amhrisiadwy trwy gyfrwng y Gymraeg."

Ychwanegodd: "Fel corff gwirfoddol, dielw, mae pob ceiniog o incwm rydym yn ei dderbyn yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau ieuenctid Cymru.

"Mae'r grant diweddaraf yma gan Lywodraeth Cymru yn hwb sylweddol i'n cynorthwyo wrth i ni ail-adeiladu yn dilyn effaith Covid-19 ar ein gwasanaethau a'n sefyllfa staffio. Mae medru darparu hyfforddiant at hynny yn hynod werthfawr, a credwn yn gryf fod hurio prentisiaid yn fuddsoddiad pwysig iawn i'r dyfodol."