Â鶹ԼÅÄ

Cofio tad-cu wnaeth helpu Yuri Gagarin i’r gofod

  • Cyhoeddwyd
Vasily Parin ac Elena ParinaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Vasily Parin a'i wyres Elena Parina

Am flynyddoedd roedd gan dad-cu Elena Parina gyfrinach ddifyr - roedd yn rhan o'r tîm wnaeth helpu Yuri Gagarin i fod y dyn cyntaf yn y gofod.

Yn ôl ei wyres Elena, sydd o Rwsia ac yn ymchwilio i'r iaith a llenyddiaeth Gymraeg, doedd neb o'r teulu, hyd yn oed ei wraig, yn gwybod am gyfraniad arloesol Vasily Parin tan flynyddoedd ar ôl y digwyddiad mawr 60 mlynedd yn ôl.

Meddyg gwyddonol o Ymerodraeth Rwsia oedd Vasily Parin, ac yn y blynyddoedd yn arwain at daith Gagarin, roedd yn ymchwilio i effaith teithio i'r gofod ar y galon a chylchrediad y gwaed.

Ei waith ymchwil i effaith awyrgylch y gofod ar y corff dynol wnaeth ofalu bod Gagarin yn cyflawni ei siwrne yn y gofod yn llwyddiannus, ac yn dychwelyd yn ôl i'r ddaear yn ddiogel.

Laika, y ci gofod

Yn ystod yr 1950au roedd yr Undeb Sofietaidd wedi bod yn anfon cŵn i'r gofod er mwyn archwilio a fyddai'n bosib i anfon pobl i'r gofod. Yn 1957 fe lwyddon nhw - a ci o'r enw Laika oedd yr anifail cyntaf i gylchdroi'r ddaear, roddodd obaith i wyddonwyr o'r hyn fyddai'n bosib ymhen blynyddoedd i ddod.

Ffynhonnell y llun, Heritage Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Laika i'r gofod ar y Sputnik 2, ar Dachwedd 3, 1957

Roedd Vasily Parin yn rhan o'r digwyddiad arloesol a rhannodd ei wyres Elena, sydd erbyn hyn yn byw yn yr Almaen, yr hanes ar raglen Aled Hughes: "Roedd fy nhad-cu yn un o benaethiaid yr adran feddygol fiolegol a gefnogodd Laika, y ci cyntaf i gyrraedd y gofod, ond yn bwysicach na hynny, y person cyntaf i gyrraedd y gofod, sef Yuri Gagarin.

"Roedd anfon Laika, y ci, i'r gofod yn rhan bwysig o gyrraedd y gofod. Wrth gwrs, yn anffodus, roedd 'na gymaint o gŵn na gyrhaeddodd, ond fe lwyddodd Laika. Roedd hi'n stori bwysig iawn ac yn stori oedd yn cael ei thrafod fwy gan i'r stori yma fod yn llai cyfrinachol."

Tad-cu Elena ac Yuri Gagarin

Yn dilyn taith lwyddiannus Laika, roedd yr Undeb Sofietaidd yn barod i anfon dyn i'r gofod, gyda Vasily Parin yn parhau yn rhan ganolog o'r tîm oedd am wireddu'r freuddwyd - a threchu America yn y ras ofod.

Ar Ebrill 12 1961 aeth Yuri Gagarin i'r gofod ar y capsiwl Vostok 1, hedfan drwy'r gofod am 90 munud gan gylchdroi o amgylch y ddaear, cyn glanio'n ôl yn ddiogel yn yr Undeb Sofietaidd.

"Mae'n fraint i fod yn rhan o'r hanes yma," meddai Elena. "Welais i erioed fy nhad-cu, roedd wedi marw cyn i mi gael fy ngeni ond clywais straeon gan fy nhad.

"Yn Ebrill 1961, fe aeth Vasily Parin ar daith busnes heb i'r teulu wybod i le na pham. Daeth yn ôl gyda chrafiad ar ei foch, a dim ond flynyddoedd wedyn fe ddwedodd wrth ei wraig i nôl headpiece Gagarin o faes gofod Baikonur, ac yna daeth fy mam-gu i ddeall ei ran yn nhaith Yuri Gagarin.

"Fy mam-gu oedd y person cyntaf i gael post o'r gofod. Fe aeth Gagarin ȃ llythyr a sgwennwyd gan fy nhad-cu gyda fo i'r gofod ac yn ôl. Roedd o'n dweud 'I Nina Parina, y ddynes gyntaf yn y byd i gael post o'r gofod', a mae'r llythyr nawr yn yr amgueddfa ymchwil gofod ym Moscow.

Ffynhonnell y llun, Bettmann/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y byd wedi syfrdanu gan y newyddion am lwyddiant Yuri Gagarin 60 mlynedd yn ôl - y dyn cyntaf yn y gofod

"Ddoe, am y tro cyntaf, gwelais glip fach ar YouTube o sgwrs rhwng Gagarin a fy nhad-cu ar y teledu Sofietaidd ar ben blwydd cyntaf y daith, ac roedd y ddau yn breuddwydio am deithiau newydd. Mae'n rhyfedd i weld y ddau mor hapus, roedd fy nhad-cu yn falch iawn i fod yn rhan o'r hanes yma."

Dylanwad Vasily Parin ar ei deulu

"Dwi'n dod o deulu hollol wyddonol - mae gan Mam a Dad ddoethuriaeth mewn bioleg. Ond roedd fy nhad yr unig un o bedwar i fynd y ffordd wahanol. Gweithiodd y ddau frawd a chwaer mewn gwyddoniaeth neu fferylleg.

"Ac mae'n hawdd deall pam - roedd eu tad, Vasily Parin, yn bersonoliaeth aruthrol, yn wyddonydd meddygol ac yn weinyddwr ymchwil talentog. Roedd hefyd wedi bod yn is-weinidog iechyd Sofietaidd a phennaeth ysgol feddygol ym Moscow."

Bu bywyd a gyrfa Parin yn un llawn lliw a dirgelwch. Dim ond wyth mlynedd cyn taith Gagarin, treuliodd wyth mlynedd yng ngharchar o 1947-54 am gyhuddiad o ddatgelu cyfrinach am feddyginiaeth canser i Americanwyr.

"Pan ddaeth yn ôl o'r carchar, adnabu fy nhad a oedd yn naw erbyn hyn mohono fo - yn sydyn dyn hen heb ddant oedd o (ac yntau yn 50 oed). Ond stori hapus rywsut oedd hi hefyd - daeth yn ôl i'r ymchwil at baratoi taith fawr Gagarin a daeth yn un o benaethiaid cyntaf sefydliad ymchwil meddygol y gofod."

Elena a Chymru

Ffynhonnell y llun, MATIAS REPETTO BONPLAND

Yn hytrach na dilyn ôl troed ei thad-cu i yrfa gwyddonol, camu i faes Astudiaethau Celtaidd wnaeth Elena, a'i hysgogi i ddysgu Cymraeg:

"Ces i fy ngeni a fy magu ym Moscow, ond ers wyth mlynedd dw i'n byw ym Marburg, yng nghanol yr Almaen. Dw i'n gweithio yma mewn adran astudiaethau Celtaidd ac yn ymchwilio i iaith a llên Gymraeg - ac yn dysgu Cymraeg i fyfyrwyr ambell waith.

"Ges i ddiddordeb mewn chwedlau Cymraeg, chwedlau gwerin a chwedlau canoloesol, pan oeddwn i'n blentyn. A phan es i astudio ieithyddiaeth roeddwn i'n lwcus iawn i gyfarfod yr Athro Andrey Korolev, a gyflwynodd i mi gymaint o wybodaeth am bethau Celtaidd.

"Dechreuais i ddysgu Cymraeg cyfoes yn Freiburg yn yr Almaen yn ystod fy nhymor tramor, a mynychais gyrsiau Nant Gwrtheyrn a roddodd gymaint i fi. Ac wrth gwrs nes i ddysgu llawer ar fy mhen fy hunan."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig