Â鶹ԼÅÄ

Ble nesa' i dîm rygbi merched Cymru?

  • Cyhoeddwyd
cymruFfynhonnell y llun, Ben Evans

Fe enillodd tîm rygbi dynion Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r Goron Driphlyg eleni - chweched pencampwriaeth y cochion ers troad y ganrif.

Ond stori wahanol yw hi ar ferched Cymru ar hyn o bryd. Dros y ddwy rownd gyntaf o'r bencampwriaeth eleni dydi Cymru heb sgorio pwynt, gan ildio 98 (colli 53-0 yn erbyn Ffrainc a 0-45 yn erbyn Iwerddon).

Yn sgil y canlyniadau yma mae'r garfan wedi cael rhywfaint o feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Gohebydd chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru, Catrin Heledd, sy'n trafod i ble mae carfan Warren Abrahams yn mynd nesaf.

Wrth i Siwan Lillicrap, capten tîm rygbi merched Cymru adael Parc yr Arfau yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn ei dagrau, roedd hi'n amlwg ei bod hi wedi bod yn brynhawn anodd, nid yn unig i'r arweinydd gydag anaf i'w phigwrn ond i'r garfan gyfan - eu seithfed colled o'r bron a'r ail ers i Warren Abrahams gymryd yr awenau fel prif hyfforddwr newydd.

Wrth ei benodi 'nôl ym mis Tachwedd y llynedd ynghyd â chyn gapten Cymru Rachel Taylor fel hyfforddwr sgiliau parhaol, roedd addewid o arddull newydd, cyffrous, ond yn ystod y ddwy gêm ddiwethaf mae Cymru wedi ildio 15 cais ac wedi methu â sgorio'r un pwynt.

Ffynhonnell y llun, Catherine Ivill
Disgrifiad o’r llun,

Warren Abrahams, Prif Hyfforddwr carfan merched Cymru

Yr hyn sy'n cael ei ofyn nawr yw pam? Doedd neb yn disgwyl gwyrthiau yn erbyn Ffrainc bythefnos yn ôl - tîm lled broffesiynol ac un o'r ffefrynnau i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ei newydd wedd eleni.

Ond roedd Iwerddon yn her wahanol - tîm amatur, fel Cymru, sydd eto i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf a thîm sydd wedi chwarae ond unwaith yn ystod y 14 mis diwethaf.

Roedd ildio cais yn erbyn y Gwyddelod o fewn dau funud a phwynt bonws o fewn 15 felly yn dipyn o ergyd. Roedd y Gwyddelod ar eu gorau - y perfformiad mwyaf cyflawn ers rhai blynyddoedd, yn ôl cyn enillydd y Gamp Lawn gyda nhw yn 2013, Gill Bourke.

Ffynhonnell y llun, Chris Fairweather
Disgrifiad o’r llun,

Y Wyddeles Eve Higgins yn cael ei thaclo gan gapten Cymru, Siwan Lillicrap, yn ystod yr ornest unochrog ar Barc yr Arfau, 10 Ebrill 2021

Ond doedd Cymru ddim ynddi gyda'r un camgymeriadau yn codi i'r wyneb dro ar ôl tro - y darn gosod, yr amddiffyn, ac er bod 'na welliant yn yr ail hanner, doedd 'na'r un ffordd yn ôl.

Wedi'r chwiban olaf, fe gyfaddefodd Abrahams nad oedd y perfformiad yn ddigon da. Ond fe ychwanegodd ei fod e'n credu'n gryf yng ngallu ei garfan a'i fod e'n gweld potensial.

Roedd 'na ddigon o ymateb ar y gwefannau cymdeithasol i'r canlyniad hefyd - sylwadau a arweiniodd at Siwan Lillicrap i drydar ei diolch am y gefnogaeth ond hefyd yn tynnu sylw at y geiriau creulon roedd hi wedi eu derbyn.

Disgrifiad o’r llun,

Gohebydd chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru, Catrin Heledd

Trydar eu hamddiffyniad o'r garfan bresennol wnaeth nifer o gyn-chwaraewyr gan godi cwestiynau ynglŷn â'r gefnogaeth ariannol a'r strwythurau sy'n bodoli i ddatblygu chwaraewyr benywaidd ifanc.

'Beiwch URC, nid y merched' oedd cri Gemma Hallett, a enillodd y Goron Driphlyg gyda Chymru, gan dynnu sylw at y ffaith, yn absenoldeb tîm dan 20 a thîm dan 18, taw dyma oedd eu cyfle cyntaf i brofi rygbi rhyngwladol.

Yn ôl cyn enillydd Cwpan y Byd gyda Lloegr, Danielle Waterman, roedd yr ysgrifen ar y mur pan ymddiswyddodd Rachel Taylor fis Mawrth, wedi llai na phum mis ers ei phenodi.

Fe ddywedodd y chwaraewr pêl-droed a phêl-rwyd rhyngwladol, Nia Jones, bod angen ariannu gêm y merched yn well. Dylen ni ddim bod mewn sefyllfa meddai, lle ma'r dynion yn ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r merched yn methu â sgorio.

Ffynhonnell y llun, DAMIEN MEYER
Disgrifiad o’r llun,

Wythwr Ffrainc, Emeline Gros, yn croesi am gais ym muddugoliaeth Ffrainc dros Gymru yn Stadiwm La Rabine yn Vannes, 3 Ebrill 2021

Mae'r Undeb wedi ymateb i'r feirniadaeth. Maen nhw, medden nhw, wedi ymrwymo i ddatblygu gêm y merched yng Nghymru. Fe gafodd strategaeth newydd ei chymeradwyo cyn y pandemig ynghyd â chyllid ychwanegol i sicrhau gwelliannau o lawr gwlad i'r lefel elitaidd.

Efallai bod y pandemig wedi arafu pethau, medden nhw ond maen nhw'n hyderus y bydd y strategaeth newydd yn cyflymu'r datblygiad.

Ffynhonnell y llun, DAMIEN MEYER
Disgrifiad o’r llun,

Canlyniad y gêm yn erbyn Ffrainc, 3 Ebrill 2021

Fis Gorffennaf y llynedd fe gyhoeddodd yr Undeb hefyd eu bod nhw'n awyddus i ddilyn yn ôl traed Lloegr a Ffrainc gan gynnig cytundebau proffesiynol i rai o'r chwaraewyr. Mae hynny eto i ddigwydd ond mae'r Capten Lillicrap yn gobeithio y bydd yr addewid yn dwyn ffrwyth yn ystod y 12 mis nesaf.

Mae llawer yn gallu digwydd o fewn blwyddyn ond y flaenoriaeth nawr i Gymru yw'r gêm i osgoi'r llwy bren ar y 24ain o Ebrill. Fe fydd honno oddi cartref yn erbyn naill ai'r Eidal neu'r Alban.

Mae'n gêm sydd angen ei hennill yn ddelfrydol ac yn gêm lle bydd Cymru yn gobeithio tawelu'r dyfroedd gyda pherfformiad a phwyntiau.

Ffynhonnell y llun, DAMIEN MEYER

Hefyd o ddiddordeb: