Nifer isaf hyd yma yn ysbytai Cymru am driniaeth Covid

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y cleifion coronafeirws sydd angen triniaeth ysbyty yng Nghymru wedi gostwng i'w lefel isaf ers dechrau'r pandemig.

Ddydd Sul, roedd cyfartaledd y cleifion oedd wedi eu heintio, neu dan amheuaeth o fod â Covid-19, ac yn cael eu danfon i'r ysbyty yn 18 dros saith diwrnod.

14 oedd nifer y cleifion a gafodd eu derbyn yn ysbytai Cymru ddydd Sul, yn ôl ystadegau GIG Cymru.

Ni chafodd yr un claf coronafeirws eu danfon i ysbytai Bwrdd Iechyd Bae Abertawe am y deuddydd diwethaf, a dim un ychwaith am dridiau yn yr wythnos ddiwethaf yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Erbyn hyn, dim ond 1.8% o'r holl gleifion a gafodd eu derbyn mewn ysbytai oedd yno am eu bod yn sâl oherwydd Covid neu bod amheuaeth eu bod â'r clefyd.

Ar 11 Ebrill, roedd yna 480 o gleifion Covid mewn gwelyau ysbyty. Mae'r cyfartaledd dyddiol, sef 508, bellach ar ei isaf ers 2 Hydref.

Mae'n golygu gostyngiad o 70% mewn mis, a gostyngiad o 94% o'i gymharu â'r uchafbwynt tua diwedd Rhagfyr.

16 o bobl oedd yn cael triniaeth mewn gwely â pheiriant anadlu, gan gynnwys gwelyau gofal critigol, wedi cadarnhad neu amheuaeth eu bod â'r feirws ar 11 Ebrill, sy'n debyg i ffigwr wythnos yn ôl.

Mae hynny'n 89% yn llai o gleifion Covid nag yng nghanol Ionawr, ac yn barhad o'r sefyllfa ers diwedd Mawrth.

I bob un claf coronafeirws sy'n cael gofal critigol, mae wyth o gleifion yn cael gofal dwys oherwydd cyflyrau eraill.