Ymgyrch Cwpan y Byd 2022: Cymru 1-0 Gweriniaeth Siec

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Penniodd Daniel James y bêl mewn i'r gôl pan oedd y ddwy ochr lawr i 10 chwaraewr

Cymru oedd yn fuddugol yn erbyn y Weriniaeth Siec nos Fawrth yn eu hail gêm yn y rowndiau rhagbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022.

Fe beniodd Daniel James i mewn i'r rhwyd i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gymru yn hwyr yn yr ail hanner.

Y Weriniaeth Siec oedd yn rhagori yn yr hanner cyntaf gyda Jakub Jankto yn saethu at y gôl dair gwaith.

Gareth Bale gafodd y cyfle gorau i Gymru wrth i'w ergyd o du mewn i'r cwrt cosbi gael ei harbed ar ôl 36 munud.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd angen amddiffyn arwrol gan Joe Rodon i sicrhau'r fuddugoliaeth yn yr eiliadau olaf

Yn gynnar yn yr ail hanner, cafodd ymosodwr yr ymwelwyr, Patrik Schick, garden goch ar ôl codi ei law i wyneb Connor Roberts, ond cafodd Roberts hefyd ei anfon bant yn hwyrach yn y gêm am ail garden felen.

Gyda'r ddau dîm i lawr i 10 dyn ac yn chwilio am y fuddugoliaeth, fe groesodd Bale y bêl o'r asgell chwith a llwyddodd James i benio i mewn i'r rhwyd heibio Tomas Vaclik yn y gôl.

Roedd angen amddiffyn arwrol gan Gymru ar adegau, gyda James Lawrence yn achub ei dîm sawl tro, cyn i Joe Rodon daflu ei hun o flaen ergyd Ondrej Celustka yn yr eiliadau olaf i sicrhau buddugoliaeth gyntaf Cymru yn yr ymgyrch.

Mae'r canlyniad yn symud Cymru lan i'r trydydd safle yng Ngrŵp E, un pwynt tu ôl y Weriniaeth Siec sy'n ail, a phedwar pwynt i ffwrdd o Wlad Belg, er eu bod wedi chwarae un gêm yn llai.