Cymru i herio'r Weriniaeth Siec mewn gêm bwysig

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd hwyliau da ymysg chwaraewyr Cymru yn yr ymarfer ddydd Llun

Bydd Cymru yn herio'r Weriniaeth Siec yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth mewn gêm bwysig yn yr ymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Fe gollodd Gymru eu gêm gyntaf yn y grŵp rhagbrofol yn erbyn Gwlad Belg, tra bod yr ymwelwyr nos Fawrth wedi cael dechreuad calonogol iawn i'w hymgyrch nhw.

Ar ôl rhoi crasfa o 6-2 i Estonia yn eu gêm agoriadol oddi cartref, fe lwyddodd y Sieciaid i hawlio pwynt allweddol yn erbyn y Belgiaid yn Prague.

Gyda nifer yn rhagweld mai Gwlad Belg fyddai'n gorffen ar frig y grŵp, roedd hi'n ganlyniad sydd nawr yn rhoi pwysau ychwanegol ar Gymru i gael canlyniad positif nos Fawrth.

Dim ond un wlad sydd yn cael mynd drwodd i Qatar yn awtomatig, gyda phwy bynnag sy'n gorffen yn ail yn y grŵp yn hawlio'u lle yn y gemau ail-gyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe ddychwelodd Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts a Rabbi Matondo i'w clybiau ddydd Llun

Ond dydy digwyddiadau oddi ar y cae heb fod o fudd i baratoadau Cymru chwaith.

Ddydd Llun, cafodd tri chwaraewr - Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts a Rabbi Matondo - eu rhyddhau o'r garfan am eu bod wedi "torri protocol".

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn chwilio am brif weithredwr newydd yn sgil ymadawiad Jonathan Ford.

Hyn oll wrth i Robert Page orfod cymryd yr awenau fel rheolwr dros dro yn absenoldeb Ryan Giggs - mae cyfnod mechnïaeth Giggs wedi ei ymestyn ar ôl iddo wadu cyhuddiad o ymosod ar ei bartner ym mis Tachwedd.

Mae'r chwaraewr canol cae Aaron Ramsey a'r amddiffynwyr Ben Davies a Tom Lockyer eisoes wedi gorfod gadael y garfan oherwydd anafiadau, ac ni fydd Cymru chwaith yn gallu galw ar brofiad Joe Allen ynghanol y cae.

Bu'n rhaid i Allen adael y cae o fewn munudau erbyn Gwlad Belg nos Fercher - ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad ers 2019.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Tomáš Souček - a sgoriodd hat-tric i'r Weriniaeth Siec yn erbyn Estonia - ydy un o sêr y gwrthwynebwyr nos Fawrth

Ond ar y cae, mae perfformiadau diweddar wedi rhoi rheswm dros fod yn obeithiol.

Er i Gymru golli yng Ngwlad Belg, roedd y perfformiad yn un parchus ac roedd gôl Harry Wilson yn uchafbwynt amlwg.

Nos Sadwrn, cafwyd buddugoliaeth nodedig mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico, sy'n nawfed ar restr detholion y byd FIFA.

Ac fe fydd James Lawrence yn ei ôl wedi iddo fethu'r gêm yn erbyn Mecsico oherwydd rheolau'n ymwneud â Covid yn Yr Almaen, lle mae'n chwarae ei bêl-droed domestig.