Â鶹ԼÅÄ

Gweinidog Addysg: 'Y ffiasgo arholiadau oedd y cyfnod gwaethaf'

  • Cyhoeddwyd
Kirst WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty Williams wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers datganoli

Wrth iddi ffarwelio â'r Senedd dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, mai'r "straen a'r gofid" a achoswyd i fyfyrwyr gan ffiasgo arholiadau'r llynedd oedd ei chyfnod gwaethaf fel gweinidog.

Fydd y Democrat Rhyddfrydol ddim yn sefyll yn etholiad y Senedd eleni - mae hi'n camu o'r neilltu 22 mlynedd ar ôl iddi gael ei hethol ar ddechrau datganoli.

Gan adleisio cred y Prif Weinidog na fyddai normalrwydd llwyr yn dychwelyd yn 2021, dywedodd fod mynd yn ôl i fywyd ysgol fel ag yr oedd cyn y pandemig yn annhebygol eleni.

Dywedodd y byddai'n "gyfnod eto" cyn na fydd angen gwisgo gorchuddion wyneb a chadw plant ysgol mewn swigod.

Cafodd yr Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed ei phenodi yn Weinidog Addysg yng Nghabinet Llafur y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones yn 2016.

Cadwodd ei swydd pan ddaeth Mark Drakeford yn Brif Weinidog yn 2018.

Yn ystod y pandemig, mae hi wedi dweud wrth ysgolion i gau ddwywaith (ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion am gyfnodau estynedig) - ym mis Mawrth 2020 a mis Ionawr 2021 ac mae hi wedi canslo arholiadau'r haf am ddwy flynedd yn olynol.

'Dim bywyd ysgol normal yn 2021'

Dywedodd mai ei chyfnod gwaethaf fel Gweinidog Addysg oedd mis Awst 2020 pan gafodd graddau Safon Uwch miloedd o ddisgyblion eu 'hisraddio' gan algorithm - digwyddiad a achosodd i lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wneud tro pedol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cau ysgolion nifer o weithiau yn ystod y pandemig

"Y cyfnod gwaetha yn gwbl ddi-os oedd sefyllfa arholiadau'r llynedd," meddai'r Gweinidog.

"Wrth edrych yn ôl pe gallwn fod wedi osgoi'r straen a'r gofid a achoswyd i fyfyrwyr y llynedd yna byddwn wedi gwneud pethau'n wahanol."

Dywedodd ei bod yn "obeithiol iawn" y bydd system eleni, sy'n seiliedig ar raddio athrawon ond heb algorithm, yn rhoi hyder i fyfyrwyr, ysgolion, prifysgolion a chyflogwyr.

Ond rhybuddiodd fod dychwelyd i fywyd ysgol 'normal' yn annhebygol yn 2021.

"Os ydyn ni'n meddwl am fywyd yr ysgol yn edrych yn union fel y gwnaeth cyn y pandemig yna dydw i ddim yn meddwl y bydd," ychwanegodd.

"Bydd angen i ni barhau â mesurau i sicrhau bod ein hysgolion mor ddiogel ag y gallant fod.

"Rwy'n obeithiol y byddwn ni'n gweld diwedd ar yr amharu ar addysg. Rydyn ni eisiau i bob plentyn ddysgu wyneb yn wyneb ar ôl gwyliau'r Pasg, ein myfyrwyr addysg bellach yn ôl a'n myfyrwyr prifysgol yn ôl.

"Ond rwy'n credu y bydd rhaid cadw gorchuddion wyneb a'r holl fesurau diogelwch am beth amser eto."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith uchafbwyntiau Kirsty Williams mae gwthio'r cwriwcwlwm addsyg newydd

Mae'n cydnabod bod y tarfu ar addysg yn ystod y flwyddyn wedi cael effaith addysgol, gymdeithasol ac emosiynol ar blant.

Dywedodd y Gweinidog Addysg mai ymhlith ei huchafbwyntiau mae symud ymlaen â'r cwricwlwm ysgolion newydd, cwtogi dosbarthiadau babanod a diwygio cyllid prifysgolion.

Fel yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y Cabinet dywedodd nad oedd hi "erioed wedi anghytuno â'r Prif Weinidog" ac nad oedd "yn teimlo unrhyw gyfyngiadau".

"Efallai y byddai rhai pobl yn dweud fy mod ychydig yn fwy rhydd i ddweud hyn i gyd gan nad oes angen i mi boeni cymaint am ganlyniad gwleidyddol na deinameg mewnol y blaid," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig