Â鶹ԼÅÄ

Torcalon i Gymru wedi gêm anhygoel ym Mharis

  • Cyhoeddwyd
FfraincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd cais Brice Dulin yn yr eiliadau olaf i gipio'r fuddugoliaeth o grafangau'r Cymry

Roedd torcalon i Gymru yn y Stade de France nos Sadwrn wrth i Ffrainc eu trechu mewn gêm anhygoel a chwalu'r freuddwyd o gyflawni Camp Lawn arall.

Llwyddodd y Ffrancwyr sgorio cais yn yr eiliadau olaf er mwyn cipio'r fuddugoliaeth o 32-30.

Bydd tynged y bencampwriaeth felly yn dibynnu ar ganlyniad yr unig gêm sydd eto i'w chwarae.

Cafodd y gêm rhwng y Ffrancwyr a'r Alban yn gynharach yn y bencampwriaeth ei gohirio ar ôl i nifer o chwaraewyr gael profion positif am Covid-19.

Mae'r gêm honno wedi cael ei haildrefnu ar gyfer nos Wener, 26 Mawrth.

Er mwyn atal Cymru rhag ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bydd yn rhaid i Ffrainc drechu'r Alban gyda phwynt bonws, a'u trechu o dros 21 pwynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Biggar sgoriodd gais cynta'r Cymry ym Mharis wedi ychydig dros 10 munud

Yn dilyn dechrau gwych i'r Ffrancwyr daeth cais iddynt o fewn chwe munud, gyda Romain Taofifenua yn croesi'r gwyngalch a Matthieu Jalibert yn ei throsi.

Roedd Cymru'n credu eu bod wedi taro 'nôl yn syth trwy Gareth Davies ond fe benderfynodd y dyfarnwr, gyda help y dyfarnwr fideo, bod Charles Ollivon wedi llwyddo i'w atal rhag tirio.

Ond funudau'n ddiweddarach roedd Cymru'n gyfartal, wrth i Dan Biggar drosi ei gais ei hun wedi 12 munud.

Daeth ail gais i'r Ffrancwyr yn syth wedi hynny, wrth i'r mewnwr Antoine Dupont groesi ger y pyst yn dilyn cic grefftus dros yr amddiffyn gan Brice Dulin.

Wedi dim ond 18 munud daeth pedwerydd cais y gêm, gyda'r blaenasgellwr Josh Navidi yn sgorio i Gymru i'w gwneud yn gyfartal 14-14.

Aeth Cymru ar y blaen am y tro cyntaf gyda gôl gosb gan Biggar cyn i Romain Ntamack - ddaeth ymlaen wedi i Jalibert ddioddef anaf i'w ben - ymateb i'w gwneud yn gyfartal 17-17 ar hanner amser.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Antoine Dupont drydydd cais y gêm wedi dim ond 15 munud o chwarae

Cymru ddechreuodd yr ail hanner orau wrth i gôl gosb arall gan Biggar eu rhoi ar y blaen eto, cyn i Josh Adams gael cais yn dilyn cyfnod hir o asesu gan y dyfarnwr fideo.

Wedi i gôl gosb gan Ntamack leihau mantais Cymru i saith pwynt, roedd hi'n ymddangos bod Louis Rees-Zammit wedi sgorio cais gwych yn y gornel, ond roedd y tîm dyfarnu o'r farn ei fod wedi gadael tir y chwarae.

Yn hytrach, fe welodd y prop Mohamed Haouas gerdyn melyn ac ychwanegodd Biggar gôl gosb arall i adfer mantais 10 pwynt y Cymry.

Gydag ychydig dros 10 munud yn weddill roedd Dulin yn credu ei fod wedi sgorio cais i Ffrainc, cyn i'r dyfarnwyr benderfynu bod Paul Willemse wedi troseddu ychydig gymalau cyn hynny.

Fe gafodd chwaraewr ail reng y Ffrancwyr gerdyn coch am y drosedd honno, sef rhoi ei fysedd yn llygaid Wyn Jones.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paul Willemse gerdyn coch gan Luke Pearce am roi ei fysedd yn llygaid Wyn Jones

Aeth Cymru i lawr i 14 dyn ychydig funudau'n ddiweddarach, gyda Taulupe Faletau yn gorfod gadael y maes ar ôl cael cerdyn melyn, cyn i Liam Williams hefyd weld yr un cerdyn eiliadau'n unig wedi hynny.

Llwyddodd Ollivon i gymryd mantais o'r faith fod gan y Ffrancwyr ddyn ychwanegol gan groesi am gais, ac fe wnaeth Ntamack ei throsi i leihau mantais Cymru i dri phwynt gyda munudau'n unig yn weddill.

Wedi i'r cloc fynd heibio i'r 80 munud, fe wnaeth Dulin sgorio yn y gornel er mwyn cipio'r fuddugoliaeth, a chadw'r bencampwriaeth yn fyw.