'Annheg' gwrthod talu £685,000 o gostau gwersyll Penalun

Disgrifiad o'r llun, Bydd gwersyll Penalun yn cau dros y penwythnos
  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Wrth i wersyll i geiswyr lloches yn Sir Benfro gau'r penwythnos hwn, mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn galw ar y Swyddfa Gartref i ad-dalu costau o ganlyniad i ymateb i ddigwyddiadau yn y gwersyll.

Fe wnaeth y Swyddfa Gartref sefydlu'r ganolfan i gartrefu ceiswyr lloches ym mis Medi'r llynedd yn yr hen wersyll milwrol ym mhentref Penalun.

Fe fydd y gwersyll yn cau ddydd Sul ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon y bydd y ganolfan yn cael ei dychwelyd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn ystod yr wythnos flaenorol roedd adroddiad arolygydd wedi disgrifio'r gwersyll ym Mhenalun a Barics Napier yng Nghaint fel lleoliadau oedd wedi dirywio'n wael ac yn "anaddas".

Mae Alun Lloyd-Jones, Cadeirydd Panel Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn ogystal â phob Aelod Seneddol yn ardal yr heddlu i dynnu sylw at y costau "sylweddol" sydd wedi bod ynghlwm â phlismona'r ganolfan ceiswyr lloches.

Pan agorodd y gwersyll ym mis Medi roedd nifer o wrthdystiadau gan bobl oedd yn gwrthwynebu cael ceiswyr lloches yno, a gweithredu gan bobl eraill oedd yn cefnogi'r gwersyll, yn ogystal â phrotestiadau gan y ceiswyr lloches eu hunain yn erbyn eu hamodau byw.

Mae llythyr y Cynghorydd Lloyd-Jones at Ms Patel yn dweud bod plismona'r ganolfan "wedi cymryd llawer iawn o amser swyddogion" sydd wedi golygu bod staff wedi cael eu "dargyfeirio o ddyletswyddau eraill, gan adael cymunedau lleol mewn perygl".

Disgrifiad o'r llun, Buodd tua 40 o'r ffoaduriaid oedd yn byw yn y gwersyll yn protestio ym mis Tachwedd dros honiadau bod eu hawliau dynol wedi eu torri

Mae Panel Heddlu a Throsedd Dyfed Powys wedi clywed bod cost plismona protestiadau yno yn £685,000 mewn oriau swyddogion a goramser.

Dywed y Swyddfa Gartref ei bod eisoes wedi cytuno i ddarparu £2.5m o arian Grant Arbennig i Heddlu Dyfed-Powys hyd at fis Medi 2021.

Fodd bynnag, yn ôl y panel ni all wneud cais am arian o'r grant ond ar gyfer costau sy'n fwy nag 1% o'i wariant refeniw net am y flwyddyn.

Mae hyn yn golygu mai dim ond ar ôl iddyn nhw wario dros £1.129m y gellir ad-dalu'r heddlu am gostau ychwanegol.

'Rhaid iddyn nhw dalu'

Dywedodd y Cynghorydd Lloyd-Jones: "Gwnaethpwyd y penderfyniadau hyn [i sefydlu'r gwersyll ceiswyr lloches ym Mhenalun] yn Llundain, ac ni chafwyd ymgynghoriad o gwbl ymlaen llaw.

"Nawr maen nhw'n dweud wrthym hyd nes y bydd y trothwy o £1.129 miliwn wedi'i gyrraedd, yna ni fydd ceiniog yn dod o Lundain.

"Rydyn ni wedi anfon llythyrau at Aelodau Seneddol ac at y Swyddfa Gartref yn dweud pa mor annheg ry'n ni'n credu yw hyn.

"Dylen nhw ddeall, os gwnânt nhw benderfyniadau fel hyn, sydd â goblygiadau ar gyfer codi precept yr heddlu, yn ogystal â chymryd yr heddlu oddi wrth eu dyletswyddau arferol, yna rhaid iddyn nhw dalu amdanyn nhw, hyd nes eu bod yn datganoli'r pwerau i ni."

'Parhau i weithio'n agos gyda'r heddlu'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Cefnogi'r heddlu yw ein blaenoriaeth, a dyna pam rydym yn recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol ac wedi rhoi £30m i'r heddluoedd i gefnogi gorfodaeth ychwanegol yn ystod y pandemig.

"Rydym eisoes wedi cytuno i ddarparu £2.5m o arian Grant Arbennig i Heddlu Dyfed-Powys hyd at fis Medi 2021 a bydd eu cyllid yn cynyddu i £122.3m y flwyddyn nesaf.

"Rydym yn parhau i weithio'n agos mewn partneriaeth â'r heddlu, yr awdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill, gyda ffocws clir ar ddiogelwch a lles y rhai sy'n cael eu lletya ym Mhenalun y mae'r Swyddfa Gartref a thrigolion lleol yn talu amdanynt."

Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref ad-dalu mwy na £80,000 o gostau sy'n gysylltiedig â'r gwersyll ceiswyr lloches.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Penfro - David Simpson - wrth y cyngor llawn fod cais wedi'i gyflwyno i'r Swyddfa Gartref ym mis Chwefror am ad-daliad o £83,858.

Clywodd cynghorwyr fod hyn yn cynnwys £65,000 o gostau staff, mwy na £12,000 ar gyfer 'cymorth arbenigol' a £5,495 ar gyfer gwaith mewnol gan gynnwys gosod rhwystrau.

Dywed y Swyddfa Gartref nad yw'n darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol unrhyw le yn y DU mewn cysylltiad ag unrhyw gostau lleol sy'n gysylltiedig â darparu llety i geiswyr lloches.