Â鶹ԼÅÄ

Cyngor Gwynedd i godi premiwm treth ail gartrefi i 100%

  • Cyhoeddwyd
Morfa Nefyn

Fe fydd premiwm treth ar ail gartrefi yng Ngwynedd yn codi i 100%, mae cynghorwyr wedi cadarnhau.

Daw wrth i'r cyngor sir osod ei chyllideb flynyddol ddydd Iau.

Ers 2018, mae perchnogion tai gwyliau a thai sy'n wag yn hirdymor yn wynebu lefi o 50% ychwanegol ar filiau treth y cyngor.

Ond wrth i'r pwysau ariannol ar yr awdurdod gynyddu, mae'r cyngor wedi cytuno i godi hynny i 100%.

Dangosodd adroddiad diweddar i'r cyngor bod 11% o stoc dai Gwynedd - 6,849 o dai - bellach yn ail gartrefi neu'n dai gwyliau.

Mae cynghorwyr eisoes wedi cymeradwyo cynllun gwerth £77m er mwyn ceisio darparu 1,500 o dai fforddiadwy i bobl leol.

Pwysau ariannol Covid-19

Ddydd Iau, clywodd cyfarfod llawn o'r cyngor bod bwlch o £3.5m yn wynebu'r awdurdod.

Bydd hynny'n cael ei gyllido'n rhannol drwy gynnydd cyffredinol o 3.7% yn nhreth y cyngor.

Ond yn ychwanegol i hynny, bydd y premiwm ar ail gartrefi'n cynyddu, gyda'r cyngor yn disgwyl i'r polisi godi £3m ychwanegol i'r coffrau.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid, Ioan Thomas, bod y "pwysau ariannol sy'n gysylltiedig â Covid-19 yn debygol o barhau i effeithio arnom i'r dyfodol agos ac yn sicr am y flwyddyn ariannol nesaf".

Mae Cyngor Môn hefyd wedi cynyddu'r premiwm treth ar ail gartrefi yn ddiweddar, a hynny i 50%.

Mae Cyngor Sir Gâr hefyd wedi galw am y pwerau i gyflwyno rheolau llymach, a'r posibilrwydd o bremiwm o 200% mewn trethi.

Pynciau cysylltiedig