Cyllideb y DU yn 'ymosodiad ar ddatganoli'

Ni fydd yn rhaid i fusnesau lletygarwch, manwerthu, hamdden a thwristiaeth dalu trethi busnes am flwyddyn arall yng Nghymru.

Daw'r cyhoeddiad wedi'r gyllideb lle cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak mwy o gyllid i Lywodraeth Cymru.

Yn Lloegr, mae diddymu'r dreth wedi cael ei ymestyn tan fis Mehefin.

Ond dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, nad oedd hynny "yn mynd yn ddigon pell", a dywedodd hefyd fod agweddau eraill o'r Gyllideb yn "ymosodiad ar ddatganoli".

Dywedodd y dylai busnesau Cymru yn hytrach gael "12 mis cyflawn heb y dreth, ac rwy'n credu y bydd hynny'n hwb pwysig i'r busnesau yna".

Mae'r cymorth ar gael i fusnesau sydd â gwerth trethiannol o lai na £500,000 - sy'n golygu nad yw archfarchnadoedd mawr yn gymwys. Dywedodd Ms Evans eu bod nhw "yn amlwg ddim angen cymorth Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd".

Ond ychwanegodd na fydd Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cyllid er mwyn rhewi'r dreth cyngor - rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw amdano.

Dywedodd Ms Evans bod awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn derbyn "pecyn mwy hael" o gefnogaeth nag yn Lloegr.

O ganlyniad i benderfyniadau gwario Mr Sunak, fe fydd Llywodraeth Cymru'n derbyn oddeutu £735m yn ychwanegol o arian refeniw - arian ar gyfer rhedeg gwasanaethau o ddydd i ddydd - yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Daw'r newidiadau ddiwrnod wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau gwario ei hun am y flwyddyn nesaf.

'Ymosodiad ar ddatganoli'

Dywedodd Ms Evans hefyd ei bod yn "hynod siomedig" nad oedd y Canghellor Rishi Sunak wedi rhoi mwy o gyllid cyfalaf - arian ar gyfer cynlluniau adeiladu - i Lywodraeth Cymru.

Disgrifiodd gyllideb Llywodraeth y DU fel "ymosodiad rhyfeddol ar ddatganoli" wrth ymateb i'r manylion amdani.

Ni fydd gan Lywodraeth Cymru rôl wrth ddosbarthu arian o gronfa 'Lefelu'r DU'.

Cyllid yn lle arian Ewrop?

Roedd gweinidogion Cymru wedi disgwyl y byddai'r cyllid ar gyfer adfywio lleol a chynlluniau trafnidiaeth yn cael ei wario yn Lloegr, gyda chyfran wedyn yn mynd i gyllidebau'r llywodraethau datganoledig.

Ond wedi'r gyllideb dywedodd Ms Evans: "Mae hyn yn ymosodiad rhyfeddol ar ddatganoli."

Dywedodd hefyd fod "cwestiynau mawr" i'w gofyn am y cynllun ddaw yn lle arian o'r Undeb Ewropeaidd, gan fod yr arian ar gael "yn fach iawn".

Dywedodd: "Dyw hyn ddim yn dechrau cymryd lle yr arian ry'n ni wedi ei golli, a'r math o arian y gwnaeth llywodraeth y DU addo y bydden ni'n ei dderbyn."