Â鶹ԼÅÄ

Chwe Gwlad 2021: Coron Driphlyg i Gymru ar ôl trechu Lloegr

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yn ennill y Goron Driphlyg

Pwy fyddai wedi meddwl ar ôl Cyfred yr Hydref y byddai Cymru yn llwyddo i ennill y Goron Driphlyg ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad?

Ond dyna'n union ddigwyddodd yn Stadiwm y Principality wrth i dîm Wayne Pivac ennill o 40 i 24.

Roedd Cymru ar y blaen o 17-14 a hanner amser wedi i'r dyfarnwr Ffrengig Pascal Gauzere ganiatáu ceisiau dadleuol gan Josh Adams a Liam Williams i Gymru.

Cafodd cais Adams ei roi ar ôl i Dan Biggar gymryd cic gosb gyflym.

Roedd yna amheuaeth bod Louis Rees-Zammit wedi taro'r bêl ymlaen yn y symudiad arweiniodd at gais Williams.

Roedd yna gais i'r mewnwr Kieran Hardy yn gynnar yn yr ail hanner.

Ond toc wedi'r awr roedd Lloegr yn ôl yn gyfartal 24-24 wedi i Ben Youngs groesi'r llinell am gais.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Kieran Hardy yn ymestyn mantais Cymru

Llwyddodd y Cymry i ysgwyd y Saeson unwaith eto ac fe fanteisiodd Callum Sheedy ar y diffyg disgyblaeth trwy sicrhau chwe phwynt gyda dwy gic gosb.

Fe gafodd y nerfau eu setlo yn yr eiliadau olaf pan sgoriodd y clo Cory Hill gais ola'r gêm

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Talupe Faletau yr anrhydedd o fod yn Chwaraewr y Gêm

Cymru: L Williams; Rees-Zammit, North, J Davies, Adams; Biggar, Hardy; W Jones, Owens, Tomas Francis, Beard, AW Jones (capt), Navidi, Tipuric, Faletau.

Eilyddion: Dee, R Jones, Brown, Hill, Botham, G Davies, C Sheedy, Halaholo.

Lloegr: Daly; Watson, Slade, Farrell, May; Ford, Youngs; M Vunipola, George, Sinckler, Itoje, Hill, Wilson, Curry, B Vunipola.

Eilyddion: Cowan-Dickie, Genge, Stuart, Ewels, Martin, Earl, Robson, Malins.