Â鶹ԼÅÄ

Gweddw'n galw am newid rheol sy'n 'fath o greulondeb'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lynn Parker a'i gwrFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Lynn Parker ddim wedi gallu gafael yn llaw ei gŵr am 10 mis cyn ei farwolaeth

Mae menyw a gollodd ei gŵr 10 mis ar ôl y tro diwethaf iddyn nhw fedru dal dwylo'i gilydd wedi sôn am y "creulondeb" o beidio caniatáu ymweliadau i gartrefi gofal.

Bu farw gŵr Lynn Parker, Alistair, ychydig cyn y Nadolig mewn cartref gofal yng Nghaerffili.

Dywedodd hi ei fod wedi "rhoi'r gorau iddi" wedi 10 mis o fethu dal llaw ei wraig gan mai hi oedd ei "linell bywyd".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried caniatáu mwy o ymweliadau dan do nawr bod y brechlyn yn cael ei ddosbarthu.

Fe wnaeth Mrs Parker, nyrs wedi ymddeol o Risga, ofalu am ei gŵr am 15 mlynedd wedi iddo gael diagnosis o barlys ymledol (MS).

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Alistair Parker symud i gartre gofal ym Mai 2019

Ond wrth i'r cyflwr waethygu, roedd hi'n cael trafferth ymdopi gydag ef gartre, ac ym mis Mai 2019 fe symudodd i gartre gofal.

"Fe geision ni wneud y gorau o bethau," meddai Mrs Parker. "Fe wnes i addo peidio gadael ei ochr, a wnes i ddim tan i Covid fy ngorfodi i wneud.

"Roeddwn i'n ymweld ag e bob dydd am bum neu chwe awr. Yna ar 20 Mawrth y llynedd, fe ataliwyd ymweliadau. Pan oeddwn i'n cael ei weld eto, roedd hynny y tu allan a dau fedr i ffwrdd, neu dryw ddrws gwydr ac roedd hynny'n dod i stop os oedd rhywun yn y cartref yn sâl.

"Yr holl fisoedd yma lle'r oedd e fy angen i, roeddwn i'n ei weld yn diflannu. Fi oedd ei linell bywyd. Roedd e'n fath o greulondeb."

'Wedi torri'i galon'

Ychwanegodd fod ei gŵr wedi dechrau gwrthod bwyd, diod a meddyginiaeth. Byddai'n ceisio'i berswadio i fwyta ac yfed dros Skype, ond "doedd hynny ddim yr un peth".

"Roedd e'n credu ei fod wedi cael ei adael. Doedd e ddim yn sylweddol beth oedd y sefyllfa y tu allan," meddai.

"Roeddwn i adre'n ceisio cadw fy hun yn iach fel fy mod yn medru mynd i mewn ato gyda chydwybod clir pan fyddai'r amser yn dod, ond ddaeth yr amser fyth."

Siaradodd gyda'i gŵr dros y ffôn ar fore 19 Rhagfyr, ond awr yn ddiweddarach cafodd alwad i ddweud ei fod wedi marw'n sydyn.

"Rwy'n credu ei fod wedi torri'i galon," ychwanegodd. "Roeddwn i'n gallu gweld 'mod i'n ei golli e.

"I fynd misoedd ar fisoedd heb ddal ei law tan iddo farw... mae'n fy ngwneud i'n grac nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lynn Parker am weld y rheol yn newid fel bod yr un teulu arall yn cael yr un profiad

Mae Mrs Parker am i Lywodraeth Cymru newid y rheolau fel nad yw teuluoedd eraill yn gorfod mynd drwy'r un profiad, gydag un aelod o'r teulu'n cael ei enwebu i fynd ar ymweliad.

Yr wythnos ddiwethaf daeth cyhoeddiad y byddai trigolion cartrefi gofal yn Lloegr yn cael un ymwelydd cyson o 8 Mawrth.

Yn Yr Alban bydd ymweliadau dan do yn ailddechrau yn gynnar ym mis Mawrth.

Does dim cyhoeddiad hyd yma am newid y rheol yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd pobl mewn cartrefi gofal yn medru cwrdd gyda'u teuluoedd a'u hanwyliaid, ac rydym yn ystyried sut i ganiatáu mwy o ymweliadau gan feddwl am lwyddiant ein cynllun brechu i drigolion a staff cartrefi gofal.

"Yn y cyfamser, tra ein bod ar Lefel 4 o gyfyngiadau dylai ymweliadau dan do ond digwydd mewn amgylchiadau neilltuol.

"Dyma yw'r sefyllfa wedi bod gydol cyfnod y pandemig. Mae gofyn i gartrefi ystyried ceisiadau [am ymweliadau o'r fath] mewn modd sensitif ac ar sail bob achos unigol."

I weld mwy am y stori, gwyliwch Wales Live ar Â鶹ԼÅÄ 1 Cymru nos Fercher am 22:35.