Cysylltiad band eang yn 'newid byd' i bentref gwledig

Disgrifiad o'r llun, Doedd dim cysylltiad band eang cyflym na signal ffôn dibynadwy ym mhentref Pandy tan yn ddiweddar

Mae trigolion pentref gwledig yn Nyffryn Ceiriog wedi cael eu cysylltu â band eang cyflym o'r diwedd ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu.

Dywedodd trigolion Pandy wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru y llynedd eu bod yn derbyn cyflymder band eang o 1MB neu is, dim cyswllt 4G a signal ffôn tameidiog.

Roedd y pentref yn poeni eu bod wedi cael eu hanghofio yng nghanol y pandemig am nad oedd ganddyn nhw gysylltiad dibynadwy gyda gweddill y byd.

Ond mae Openreach bellach wedi sicrhau cysylltiad cyflym iawn i lawer o'r ardal, gyda thrigolion yn dweud eu bod yn teimlo fel eu bod wedi cael eu "cysylltu â'r 21ain Ganrif" o'r diwedd.

Mae'r pentrefwyr yn amcangyfrif bod tua hanner y cartrefi yn gallu derbyn y band eang cyflym, gyda'r gobaith y bydd y gweddill yn cael eu cysylltu o fewn yr wythnosau nesaf.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Alison Bendall bod y band eang cyflym yn "newid byd i ni"

Dywedodd Alison Bendall, oedd wedi bod yn ei chael yn anodd gallu gwneud galwad fideo gyda'i theulu yn Lloegr, ei bod bellach yn derbyn band eang ar gyflymder o 400MB yr eiliad.

"Dydy geiriau ddim yn gallu disgrifio pa mor dda ydy hi i gael ein cysylltu o'r diwedd," meddai.

"O weld wyrion ac wyresau ar-lein, i wylio ffilmiau neu siopa heb orfod poeni am golli cysylltiad - mae'n wych.

"Mae'n newid byd i ni, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo."

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl Aeron Davies mae hi "wedi bod yn frwydr fawr iawn" i sicrhau band eang cyflym i'r pentref

Fe lwyddodd y pentrefwyr i gael Openreach i ymestyn y band eang i'w hardal nhw trwy ffurfio cynllun Partneriaeth Ffeibr Cymunedol, gan sicrhau arian grant er mwyn talu am y gwaith.

"Mae hi wedi bod yn frwydr fawr iawn i gael y broadband yma i Pandy," meddai un o'r trigolion, Aeron Davies.

"Mae'n gwneud lot o wahaniaeth i bobl sydd angen gweithio o gartref. Mae o mor gyflym rŵan, a does 'na ddim problem efo'r broadband o gwbl."

Ychwanegodd Connie Dixon o Openreach: "Nawr, fwy nag erioed, mae cysylltiad da yn allweddol i gymunedau ar draws y wlad.

"Roedd Pandy yn ardal gymhleth i'n peirianwyr ond mae'n dangos bod Openreach wedi ymrwymo i ddarparu cysylltiad band eang ffeibr i bob rhan o Gymru."