Covid-19: 13 yn rhagor o farwolaethau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 13 yn rhagor o farwolaethau gyda haint coronafeirws a 267 achos newydd.

Mae'n golygu fod nifer yr achosion positif yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach yn 204,463.

Mae nifer y bobl sydd wedi marw o'r haint yng Nghymru - yn ôl y system yma o gofnodi - bellach yn 5,366.

O'r achosion newydd roedd 29 yng Nghaerdydd, 25 yn Wrecsam, 24 yn Sir y Fflint a 21 yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd chwech o'r marwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd, pump yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac un yr un yn ardaloedd Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan.

Mae'r data hefyd yn dangos bod cyfanswm o 951,540 o bobl wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn, gyda 139,445 bellach wedi cael dau ddos.

Yn y 24 awr ddiwethaf, cafodd 9,523 o bobl eu dos cyntaf o'r brechlyn, a 14,664 yr ail ddos.

Mae cyfradd yr achosion fesul 100,000 o bobl ar draws Cymru dros saith diwrnod bellach yn 53.1.

Mae'r gyfradd fesul 100,000 yn is na 100 ymhob sir yng Nghymru, ond mae'r gyfradd ar ei uchaf yng Ngwynedd (94.7) a Chonwy (89.6).

Mae'r gyfradd yn is na 50 mewn 10 sir bellach gyda Cheredigion (20.6) a Sir Benfro (21.5) â'r graddfeydd isaf.