Diswyddiadau'r Eisteddfod: 'Diffyg rheolaeth'

  • Awdur, Alun Thomas
  • Swydd, Newyddion Radio Cymru

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi'i chyhuddo o ddiffyg rheolaeth ac o gynllunio tymor byr, ar ôl cyhoeddi y bydd bron i hanner eu staff yn colli'u swyddi.

Pan ddaeth y newyddion bod Eisteddfod Ceredigion wedi'i gohirio am flwyddyn arall oherwydd y pandemig, dywedodd y prif weithredwr, Betsan Moses, bod yn rhaid ail-strwythuro staff, gan leihau'r gweithlu o 13 i saith. Dywedodd bod yr ŵyl yn "wynebu blwyddyn arall hynod o heriol".

Ond mae dau o gadeiryddion pwyllgor gwaith eisteddfodau'r gorffennol wedi dweud wrth Dros Frecwast ar Radio Cymru eu bod nhw'n poeni am effaith y diswyddiadau ar ddyfodol y brifwyl.

Dywed llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol bod yn rhaid "lleihau'r tîm i bron hanner ei faint er mwyn gallu goroesi'r cyfnod nesaf".

'Cynllunio tymor byr yn unig'

"Yr hyn ofynnais i i mi fy hun pan weles i'r datganiad yw a oes llwyr gyfiawnhad dros ddiswyddo," meddai Derec Llwyd Morgan, fu'n gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Môn 2017, ac yn gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod ac yn Llywydd y Llys dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o'r fideo, Derec Llwyd Morgan: Diswyddo staff Eisteddfod yn 'gamgymeriad enbyd'

"Mae na sôn am gael gwared ar bump o aelodau staff, meddir, am nad oes eu heisiau nhw i drefnu'r math o Eisteddfod AmGen a gynhaliwyd y llynedd, ac sy'n cael ei chynnal eto eleni.

"Ond pan ddaw pethe nôl i fwcwl eto o'r flwyddyn 2022 - gobeithio - mae'r cwestiwn yn codi a yw'r wyth neu naw o aelodau staff sydd ar ôl yn ddigon i gynnal eisteddfod draddodiadol. Fy ateb i ydi: go brin.

"Diffyg rheolaeth yw hyn yn fy marn i, cynllunio tymor byr yn unig a dwi'n gofyn i mi fy hun sut mae cyfiawnhau'r diswyddiadau, achos gyda'r pump yma fe fydd profiad mawr a chyfoethog iawn... profiad angenrheidiol at y dyfodol agos yn diflannu."

'Ymroddiad a phrofiad staff yn bwysig'

Cyn i'r brifwyl fynd i Fôn yn 2017, roedd hi yn Sir Fynwy, ac mae cadeirydd y pwyllgor gwaith yno, Frank Olding, yn poeni am allu'r Eisteddfod Genedlaethol i fynd i lefydd fel hynny, gyda chyn lleied o staff i gefnogi'r bobl leol.

Disgrifiad o'r llun, 'Mae nifer o ardaloedd yn dibynnu'n helaeth ar staff proffesiynol a phrofiadol y 'steddfod,' medd Frank Olding

"Mewn ardaloedd draddodiadol Gymraeg, mae pawb yn gwybod beth yw Eisteddfod Genedlaethol, a beth sy'n ofynnol wrth baratoi ar gyfer eisteddfod.

"Ond mewn ardal fel Sir Fynwy, er enghraifft, rhyw ddyrnaid o Gymry Cymraeg oedd gyda ni.

"Mewn ardal llai traddodiadol, ry'n ni'n dibynnu'n helaeth ar brofiad ac ymroddiad y staff i ddod â'r maen i'r wal, ac maen nhw'n gorfod gweithio'n galetach fyth.

"Ond wedyn, mae pawb yn dweud bod y budd, bod y gwaddol o ddod i ardaloedd felly mor bwysig.

Disgrifiad o'r llun, 'Mae cefnogaeth staff yn gwbl angenrheidiol lle mae prinder siaradwyr Cymraeg,' medd cyn-gadeirydd

"Ac mae'n debyg bod ardaloedd eraill [y bydd yr Eisteddfod yn] ymweld â nhw, fel Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol agos hynny yw, yn yr un cwch â ni... yn dibynnu'n helaeth ar staff proffesiynol a phrofiadol y 'steddfod."

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud bod yr ymgynghoriad ar y strwythur staffio newydd yn tynnu tua'r terfyn ar hyn o bryd.

Taliadau diswyddo sâl?

Mae Derec Llwyd Morgan hefyd wedi beirniadu'r taliadau diswyddo sydd wedi'u cynnig i'r staff fydd yn colli gwaith.

"Os yw'r swyddi'n diflannu, ofni dwi - yn ôl be dwi'n glywed - eu bod nhw'n mynd ar delerau sâl.

"Fel arfer pan ddiswyddir pobl brofiadol, sydd wedi bod yn gyflogedig gan sefydliad am flynyddoedd maith, maen nhw'n cael cynnig pecyn diswyddo cymesur â'u profiad a hyd eu gwasanaeth

"Ond yn achos y rhai sy'n cael eu diswyddo gan yr Eisteddfod, maen nhw wedi cael cynnig yr isafswm posib o iawndal, sydd yn fy marn i - ac ym marn pobl eraill - braidd yn ddi-anrhydedd, ac yn adlewyrchu'n bur sâl ar sefydliad cenedlaethol fel yr Eisteddfod."

Disgrifiad o'r fideo, Beryl Vaughan oedd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Maldwyn yn 2015

Ymateb yr Eisteddfod Genedlaethol

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Cyhoeddwyd ddiwedd Ionawr bod rhaid gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan 2022 a bod y sefydliad wedi gorfod dechrau ar broses ymgynghori gyda staff gan fod rhaid i ni leihau'r tîm i bron hanner ei faint er mwyn gallu goroesi'r cyfnod nesaf.

"Mae'r ymgynghoriad ar strwythur tymor byr yn tynnu tua'r terfyn ar hyn o bryd. Mae'r strwythur dan ystyriaeth yn ein galluogi i wireddu Eisteddfod AmGen am flwyddyn arall, ac yn strwythur y gellir adeiladu arno i'r dyfodol.

Disgrifiad o'r llun, Dywed llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol "eu bod yn ymwybodol bod hwn yn gyfnod anodd"

"Derbyniwyd cyngor adnoddau dynol arbenigol drwy gydol y broses, a chynigiwyd cyfle i staff ymgeisio am ddiswyddo gwirfoddol fel rhan o'r broses.

"Mae'r telerau a gynigir yn dilyn cynlluniau cyrff elusennol yn y trydydd sector ac yn unol â'r hyn a gynigiwyd gan sefydliadau eraill sydd wedi mynd drwy broses gyffelyb yn ddiweddar. Mae'r telerau a gynigir yn welliant ar delerau'r cynllun statudol.

"Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac mae'r Bwrdd yn llwyr gydymdeimlo â staff sydd wedi rhoi gwasanaeth hir a ffyddlon i'r Eisteddfod a rheidrwydd oedd gweithredu er diogelu'r corff i'r dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r sector digwyddiadau a gwyliau wedi'i heffeithio'n ddifrifol gan y pandemig, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod trwy gydol y cyfnod hwn.

"Rydyn ni'n falch o weithio gyda nhw i gefnogi Eisteddfod Amgen yn ystod 2021, ac fe fyddwn yn parhau i gefnogi gweithgareddau yn y dyfodol, fel bod cymunedau yng Ngheredigion, Gwynedd a Rhondda Cynon Taf yn gallu edrych ymlaen at gynnal yr wyl o 2022."