'System gynllunio yn atal codi mwy o dai fforddiadwy'

Ffynhonnell y llun, PA Media

  • Awdur, Dafydd Morgan
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn "newyddion gwych" eu bod ar y ffordd i gyrraedd eu targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn diwedd tymor presennol y Senedd.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf maen nhw wedi cyrraedd 19,000 ac maen nhw'n dweud y byddan nhw'n cyrraedd eu targed ym mis Mawrth.

Mae'r targed hwnnw yn cynnwys cartrefi fforddiadwy sydd newydd eu hadeiladu, cartrefi sy'n rhan o gynlluniau Help i Brynu a Rhentu i Brynu a chartrefi sydd wedi eu prynu gan awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai i'w defnyddio fel tai fforddiadwy.

Ond mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi clywed y byddai modd codi hyd yn oed yn rhagor o dai fforddiadwy os y byddai yna ragor o gymorth i gwmnïau bach a chanolig.

Dywed cwmni adeiladu o Flaenafon fod datblygu yn Lloegr yn llawer rhatach ac yn haws a bod anrhefn o fewn y system gynllunio yng Nghymru.

Yn ôl cwmni adeiladwyr P&P, sydd ond yn adeiladu tai fforddiadwy, mae angen i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth i gwmnïau adeiladu bach a chanolig os ydyn nhw am gynyddu'r nifer o dai sy'n cael eu codi.

Ffynhonnell y llun, Bethan Wyn

Mae Bethan Wyn a'i gŵr Carwyn Evans bellach wedi prynu tŷ ar y farchnad agored yng Nghaerfyrddin.

Dywed Bethan ei bod wedi gorfod edrych ar dŷ fforddiadwy saith mlynedd yn ôl er mwyn gallu camu ar yr ysgol eiddo.

"Nes i symud adre ar ôl bod yn y brifysgol yng Nghaerdydd a chael swydd yn Aberteifi ac ar y pryd roedden nhw'n hysbysebu tai fforddiadwy," meddai.

"O'n i'n lwcus mewn ffordd, o'n i'n gallu byw gyda Mam a Dad i arbed ar gyfer blaendal.

"Ond roedd cael tÅ· fforddiadwy yn golygu ein bod ni'n gallu cael ein troed ni ar yr ysgol gan osgoi gorfod rhentu - roedden ni'n gallu rhoi ein arian tuag at forgais.

"Ar y pwynt 'na bydden ni ddim wedi gallu [prynu tÅ· ar y farchnad gyffredin]. Bydden ni 'di gorfod byw gyda Mam a Dad yn hirach er mwyn arbed mwy o flaendal.

"Pwy a ŵyr pryd fydden ni wedi gallu rhoi ein troed ni ar yr ysgol a chael mynediad i'r farchnad dai heb y tai fforddiadwy?"

Dywed Tim Crooks sy'n rheolwr datblygu gyda chwmni adeiladwyr P&P: "Mae'r cymdeithasau tai sy'n cynnig cytundebau i ni yn ddibynnol ar y grant tai cymdeithasol. Yn aml iawn mae yna drafferthion gyda'r grant.

"Yr amser yma o'r flwyddyn mae'n gyfnod prysur lle mae tendrau yn cael eu rhyddhau. Effaith hynny yw nad oes yna lif cyson o arian grant ac i gwmnïau bach neu ganolig fel ni mae'n 'neud bywyd yn anodd.

"Problem arall i ni yw oedi yn y system gynllunio. Yn ogystal mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ddeddfau sydd wedi ychwanegu at y gost yn sylweddol.

"Cymru yw un o'r ardaloedd drutaf i ddatblygu yn y Deyrnas Unedig."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am glywed pryderon cwmnïau bach a chanolig

Yn ôl Cyfarwyddwr Sefydliad Cynllunwyr Tref Brenhinol Cymru, Roisin Willmott mae gwariant ar wasanaethau cynllunio wedi gostwng 50% yn ystod y degawd diwethaf.

Mae RTPI Cymru yn dweud bod angen cymorth ariannol ar frys er mwyn cael system gynllunio rhagweithiol a strategol.

Mae'r Gweinidog Tai, Julie James yn cydnabod bod cael yr adnoddau digonol yn y system gynllunio yn rhywbeth mae angen delio ag ef.

Mae hi hefyd yn dweud bod y llywodraeth yn cynnal fforymau a sesiynau gwrando o fewn y sector a'u bod am glywed gan fusnesau bach a chanolig er mwyn deall y rhwystrau sy'n eu hwynebu.

Beth nesaf?

Beth nesa felly? Gyda phobl Cymru i ethol Senedd newydd eleni mae 'na alw ar i lywodraeth nesaf Cymru ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol yn ogystal â chynyddu'r nifer o dai fforddiadwy.

Dywed Steffan Evans o Sefydliad Bevan: "Ry'n ni wedi adeiladu 20,000 o dai sydd yn cynnwys rhai mathau o dai fforddiadwy ond mae modd cwestiynu pa mor wirioneddol fforddiadwy ydyn nhw.

"Ydyn nhw yn cynyddu nifer y tai mae pobl yn gallu fforddio mewn marchnad anodd o ran rhent ac hefyd perchnogaeth?

"Felly bydden i'n dadlau, dros y pum mlynedd nesa, ni wedi dangos ein bod yn gallu darparu'r 20,000 gyda chymorth y llywodraeth, bydden i'n dadlau bod angen adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol dros y pum mlynedd nesa. Dyma'r math o dai sydd wir yn cynyddu argaeledd tai rhad i bobl i'w rhentu."