Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: 16 marwolaeth a 336 achos newydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 16 yn rhagor o farwolaethau o haint coronafeirws a 336 achos newydd.

Mae'n golygu fod nifer yr achosion positif yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach yn 201,688.

Mae nifer y bobl sydd wedi marw o'r haint yng Nghymru - yn ôl y system yma o gofnodi - bellach yn 5,237.

Mae cyfanswm o 860,083 o bobl wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn, a chyfanswm o 37,773 wedi cael ail ddos o'r brechlyn yng Nghymru.

Ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro oedd â'r nifer uchaf o farwolaethau newydd, sef saith, sy'n dod â chyfanswm marwolaethau'r ardal i 733.

Roedd pedair o'r marwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac roedd tair yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Roedd yna un farwolaeth yr un yn ardaloedd byrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe.

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sydd wedi gweld y nifer uchaf o farwolaethau ers dechrau'r pandemig, sef 1,455.

Cyfraddau uchaf achosion yn Ynys Môn

Mae cyfradd yr achosion fesul 100,000 o bobl ar draws Cymru dros saith diwrnod yn parhau yn 83.

Mae'r cyfraddau uchaf yn Ynys Môn (122.8 ), Sir y Fflint (122.4), Caerdydd (105.8) a Powys (101.9).

Mae'r cyfraddau isaf yn Sir Benfro (52.5), Pen-y-bont ar Ogwr (52.4) a Cheredigion (30.3).

Erbyn hyn mae 18 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gyda chyfradd o lai na 100 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth.

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cafodd Covid ei gynnwys fel achos ar 7,005 o dystysgrifau marwolaeth, lan at 5 Chwefror.

Pynciau cysylltiedig