Â鶹ԼÅÄ

Lleihau oriau agor canolfannau brechu am bythefnos

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ciwioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 21% o boblogaeth Cymru bellach wedi derbyn un dos o'r brechlyn Covid-19

Bydd rhai canolfannau brechu torfol yng Nghymru yn cau dros y pythefnos nesaf am fod disgwyl gostyngiad i gyflenwadau'r brechlyn Oxford-AstraZeneca.

Y gred yw y bydd holl ganolfannau Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cau dros dro, tra bod disgwyl i ganolfannau mewn ardaloedd eraill leihau eu hamseroedd agor.

Mae swyddogion iechyd yn disgwyl llai o ddosau gan y cyflenwr, cyn i gyflenwadau ddychwelyd i lefelau diweddar o ddechrau mis Mawrth.

Ond bydd cynnydd sylweddol yn nifer yr ail ddosau a weinyddir o'r brechlyn Pfizer yn cychwyn yr wythnos nesaf, wrth i'r rhai a gafodd ddos ​​cyntaf ym mis Rhagfyr ddechrau derbyn eu hail bigiad.

Byrddau iechyd fydd yn penderfynu sut mae brechlynnau'n cael eu danfon dros y pythefnos nesaf.

Bydd canolfannau brechu torfol yn newid eu hamseroedd agor i adlewyrchu'r lleihad mewn cyflenwad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi paratoi yn barod am ostyngiad i gyflenwad AstraZeneca.

Ac fe fynnodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn y Senedd bod y rhaglen frechu'n dal "ar y trywydd iawn".

'Hyderus, yn absenoldeb datblygiadau annisgwyl'

Dywedodd Mr Drakeford: "Rydym yn gwybod ein bod am gael llai o'r brechlyn dros yr wythnosau nesaf nag yr rydym wedi'i gael yn yr ychydig wythnosau diwethaf.

"Roedd hynny'n hysbys ac roedd yna baratoadau ar ei gyfer ac wedi'i gynnwys yn ein cynlluniau sy'n parhau o ran cwblhau brechu'r pum grŵp blaenoriaeth nesaf erbyn y gwanwyn.

"Oni bai am rwystrau annisgwyl, rydym yn hyderus y byddwn ni'n parhau ar y trywydd iawn."

Ond fe rybuddiodd bod datblygiadau annisgwyl wedi codi eisoes yn ystod y pandemig "sy'n gallu cael effaith ddramatig yn gyflym iawn".

Ffynhonnell y llun, EPA

Dywedodd y bydd pob gwlad yn derbyn llai o'r brechlyn dros yr wythnosau nesaf yn rhannol oherwydd trefniadau AstraZeneca, ac mai rhoi ail frechlyn i bobl yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf fydd y canolbwynt o ran cyflenwadau'r brechlyn Pfizer.

"Byddwn yn defnyddio'r brechlyn AstraZeneca ar gyfer dosau cyntaf pobl yn y pum grŵp nesaf," meddai Mr Drakeford wrth ateb cwestiwn gan yr AS Ceidwadol, Russell George.

"Byddwn yn clywed, rwy'n ofni, gan bobl sy'n siomedig bod maint eu cyflenwadau'n llai na'r ydym wedi'i cael dros yr wythnosau diwethaf, oherwydd gallwn ni ddefnyddio mwy.

"Petai yna fwy, does dim amheuaeth y gallwn ni ei ddefnyddio. Rwy'n gobeithio y bydd Mr George ac aelodau eraill yn gallu rhoi sicrwydd i bobl sy'n ysgrifennu atom, ein bod yn dal ar y trywydd iawn i frechu'r pum grŵp blaenoriaeth nesaf erbyn y gwanwyn."

Ddydd Mercher, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i frechu 20% o'i phoblogaeth.

Mae cyfanswm o 684,097 o bobl yng Nghymru bellach wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn ac mae 3,795 wedi cael ail ddos.

Yn y cyfamser, mae Aelod Seneddol y Rhondda wedi dweud y bydd canolfan frechu torfol yno'n cau dros dro "oherwydd materion cyflenwi".

Mewn fideo ar Facebook, dywedodd Chris Bryant, er bod y cynnydd hyd yma wedi bod yn "wych, mae'n drueni bod diffyg cyflenwad y brechlyn Pfizer am y pythefnos neu dair wythnos nesaf yn golygu y bydd yn rhaid i'r ganolfan brechu dorfol gau dros dro".

'Hyderus o'n cyflenwad'

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gael gafael ar gyflenwadau'r brechlynnau ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dros yr ychydig wythnosau nesaf, rydyn ni'n disgwyl gostyngiad bach yn nifer y brechlynnau y byddwn ni'n eu derbyn gan Lywodraeth y DU - mae hwn yn newid arfaethedig a disgwyliedig yn y cyflenwad a fydd yn effeithio ar y DU gyfan.

"Rydym wedi ystyried hyn yn ein cynlluniau ac ni fydd yn effeithio ar apwyntiadau nac oedi pan fydd pobl i gael eu hail ddos. Disgwylir i'r cyflenwad o frechlynnau gynyddu'n sylweddol o ddechrau mis Mawrth.

"Bydd pob dos o'r brechlyn a dderbyniwn yn parhau i gael ei ddanfon ar unwaith i bawb sydd ei angen. Mae ein timau brechu yn parhau i wneud gwaith anhygoel i frechu pawb cyn gynted â phosib."

Dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, fod ei lywodraeth yn "hyderus o'n cyflenwad brechu ac yn hyderus y gallwn gyrraedd ein targed o frechu'r pedwar grŵp uchaf erbyn dydd Llun".

"Rydyn ni'n hyderus o'n cyflenwadau, ond fel rydych chi'n ymwybodol nid ydyn ni wedi gwneud sylwadau ar fanylion amserlenni danfon na symudiadau'r brechlynnau," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn hyderus y bydd y cyflenwad cyson, rheolaidd o ddosau yn parhau i gefnogi cyflwyno'r brechlyn yn ystod yr wythnosau i ddod.

"Os cewch eich galw am frechlyn, parhewch i fynd i'ch apwyntiad."

Pynciau cysylltiedig