Â鶹ԼÅÄ

Ymchwilio i neges hiliol at chwaraewr Abertawe, Yan Dhanda

  • Cyhoeddwyd
Yan DhandaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu'n ymchwilio i gamdriniaeth hiliol tuag at un o chwaraewyr Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Abertawe.

Fe wnaeth chwaraewr canol cae yr Elyrch, Yan Dhanda, sydd â chefndir Asiaidd, dderbyn negeseuon ar wefannau cymdeithasol yn dilyn colled ei dîm i Manchester City yng Nghwpan yr FA.

Mae clybiau Abertawe a Manchester City wedi condemnio'r digwyddiad, gydag Abertawe wedi cyfeirio'r mater at Heddlu De Cymru.

Mae Manchester City yn dweud y byddan nhw'n cefnogi'r heddlu i ddarganfod a oedd eu cefnogwyr nhw'n rhan o'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar Twitter nos Fercher, dywedodd Dhanda, sy'n 22: "Sut bod hyn dal yn digwydd yn 2021? Dwi mor falch o bwy ydw i a chynrychioli pobl Asiaidd. Rhaid gwneud mwy."

Dywedodd yr Elyrch bod gan Dhanda eu "cefnogaeth lawn", a'u bod "wedi tristau" gan y digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau.

Chwaraeodd Dhanda y rhan fwyaf o'r gêm yn erbyn Man City nos Fercher, wrth i'r Elyrch golli o 3-1.

Dhanda, a gafodd ei eni yn Birmingham, yw'r diweddara' mewn cyfres o bêl-droedwyr i gael eu targedu gan negeseuon hiliol ar-lein.