Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Oedi dychwelyd i rai ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
plantFfynhonnell y llun, PA

Ni fydd ysgolion cynradd Ynys Môn nac ardal Wrecsam yn ailagor yn syth ar ôl y gwyliau hanner tymor oherwydd cyfraddau uchel o coronafeirws.

Ddechrau'r mis cyhoeddodd y llywodraeth y byddai plant 3-7 oed yng Nghymru yn cael dychwelyd i'w hysgolion o 22 Chwefror.

Ar Ynys Môn fe fydd plant yn dychwelyd yn raddol o ddydd Iau, 25 Chwefror ymlaen, a'r nod yw cael pob plentyn yn Cyfnod Sylfaen yn ôl yn yr ysgol erbyn 3 Mawrth.

Tan hynny bydd y plant yn cael eu haddysgu o bell.

Mae Cyngor Môn yn pwysleisio eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu disgyblion a staff a bod y trefniadau'n ddibynnol ar nifer yr achosion o Covid yn y sir.

Bydd manylion yn cael eu dosbarthu gan ysgolion i bob disgybl.

'Cymryd agwedd bwyllog'

Mae Cyngor Sir Wrecsam wedi penderfynu na fyddant yn ailddechrau tan o leiaf 26 Chwefror, os yw'n ddiogel i wneud hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai swyddogion a phrifathrawon yn monitro lefelau'r haint ac yn adolygu'r penderfyniad os bydd angen.

Yn ôl y Cynghorydd Phil Wynn, sy'n arwain ar addysg ar gabinet y cyngor, roedd angen pwyll yn dilyn y sefyllfa yn y sir yn ddiweddar.

"Mae lefelau coronafeirws wedi bod yn llawer gwaeth yn Wrecsam o'i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru yn yr wythnosau diwethaf, felly rydym yn cymryd agwedd bwyllog.

"Byddwn yn monitro'r sefyllfa yn barhaus, a byddwn yn gweithio gydag ysgolion i adolygu'r trefniadau ar ôl hanner tymor.

Ychwanegodd y bydd "prifathrawon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni".

Agor ysgolion Sir y Fflint

Y cyngor y i ysgolion Sir y Fflint yw y "dylent baratoi ar gyfer ailagor darpariaeth wyneb yn wyneb ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar 22 Chwefror". 

Dywed llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn monitro'r cyfraddau achosion a phrofion positif yn ddyddiol, ac yn disgwyl i'r ddau barhau i ddisgyn yn raddol dros yr wythnosau nesaf. 

Ond maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa, ac yn dweud bod eu penderfyniad yn seiliedig ar y ffigyrau diweddaraf.

Pynciau cysylltiedig