Â鶹ԼÅÄ

Anodd aros gartref wrth i Gymru chwarae i ffwrdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lluniau o Deiniol Tegid yn mwynhau dilyn CymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Wrth i dîm rygbi Cymru deithio i'r Alban am y gêm fawr yfory, mae miloedd o Gymry fyddai fel arfer yn eu dilyn i'w cefnogi - a chymdeithasu wrth gwrs - wedi gorfod aros gartref.

Yn eu mysg mae Deiniol Tegid, sydd wedi mynd i bob un o'r chwe gwlad a thu hwnt i wylio'r tîm cenedlaethol ers blynyddoedd. Eleni, fel i bawb arall, mae ei brofiad o'r bencampwriaeth yn wahanol iawn i'r arferol oherwydd rheolau Covid-19.

Yng nghanol oerfel tywyll gwlyb pob gaeaf mae un peth yn saff o godi 'nghalon.

Rhywbeth i edrych ymlaen ato, i'w fwynhau ar y diwrnod, i'w ail-fyw'r diwrnod wedyn, i edrych yn ôl arno dros y dyddiau canlynol, ac i rannu banter gyda chyfeillion a thynnu coes.

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Gyda'i roller coaster emosiynol lledrithiol mae'n ddigwyddiad cymdeithasol cymaint a gornest chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Edrych ymlaen i'r chwarae ddechrau yn Murrayfield yn 2017... Deiniol Tegid, ar y chwith, gyda rhai o'r criw sy'n mynd gydag o yn flynyddol i wylio gêm i ffwrdd

I mi, mae yna un trip oddi cartref bron bob blwyddyn - i'r Alban a'r Iwerddon am yn ail fel rheol - ambell siwrne i'r brifddinas, ac yn amlaf oll, trip i dafarn leol i fwynhau'r diwrnod mawr.

A dweud y gwir fe ddylai'r penwythnos yma fod yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn. Wedi cyffro gemau Cymru a'r Alban y penwythnos diwethaf fe fyddai'r trip i Gaeredin y penwythnos yma yn tynnu mwy o ddŵr i'r dannedd nag arfer.

Mwy o gyffro, mwy yn y fantol, mwy o her nag yn y blynyddoedd a fu gan dîm Yr Alban, ond yn bennaf oll, mwy o hwyl ddisgwylgar a thensiwn cyfeillgar y tu ôl i bob "slangevar" a "iechyd da".

Ond eleni wrth gwrs, nid fel yna y bydd hi. Does yr un trip am ddigwydd eleni, ac fe fydd bwlch mawr yn fy mywyd i, a degau o filoedd o bobol eraill, dros yr wythnosau nesaf. Roedd strydoedd gwag Caerdydd cyn y gêm yn erbyn Yr Iwerddon yn edrych yn annaearol o ddistaw.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd a'r stadiwm ar ddiwrnod rygbi rhyngwladol.... cyn gêm arferol, a cyn gornest gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad eleni

Cyn-hyfforddwr Cymry, y Kiwi Graham Henry, dwi'n meddwl dywedodd nad oedd wedi sylweddoli o ben arall y byd pa mor bwysig ydi'r bencampwriaeth fel achlysur cymdeithasol. Ac fe wnaeth daro'r hoelen ar ei phen.

Y cyffro a'r croeso

Os oes trip i'r Alban neu'r Iwerddon ar y gweill, mae'r cyffro yn dechrau wythnosau ymlaen llaw. Mae'n ddigon tebyg i blentyn yn edrych 'mlaen at y 'Dolig.

Mae cynllunio trefniadau bysus, trenau a chychod yn rhan hanfodol o'r ecseitment. A tydi eistedd mewn bws am chwe awr ar y draffordd rhwng Bangor a Chaeredin ddim hanner cynddrwg ac mae'n swnio os ydi'n ddiwrnod cyn y gêm.

Ac am y siwrne ar y cwch o Gaergybi, wel mae honno'n dyrchafu'r teithio i lefel uwch eto. Cyfarfod cyfeillion hen a newydd dros lymed bach o'r stwff du ar gwch sy'n rholio'n araf a chyfforddus o'r chwith i'r dde.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Torri syched gyda'r criw cyn gêm yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn ôl

Ac, heb ystrydebu gobeithio, mae'r croeso gan ein cefndryd Celtaidd wastad yn werth chweil.

Er bod hyn wedi newid mymryn yn y deng mlynedd ddiwethaf yn yr Iwerddon, mae'r Albanwyr yn parhau i ymestyn croeso diarhebol.

Mae gwrando ar un pibydd unig ar do Murrayfield yn chwarae Flower of Scotland yn brofiad gwirioneddol iasol. Yn enwedig pan fo mwy o Gymry yn y stadiwm nag o Albanwyr - ond pawb bron yn bloeddio canu anthem y tîm cartref fel un côr beth bynnag.

Unwaith yn unig ydw i wedi gwneud y trip i Twickenham. Ddyweda'i ddim mwy am hynny.

Ond fe ddylai trip i'r Eidal fod ar restr pob ffan o'r twrnamaint. Profiad hollol wahanol gyda diwylliant a hanes rhyfeddol rownd pob cornel. Dyna pam bod angen pedwar neu bum diwrnod ar gyfer y trip arbennig yna.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Deiniol wedi teithio'n bellach na'r Eidal hefyd i wylio Cymru - De Affrica, yr Ariannin, Seland Newydd a fan yma yn Japan

A bod yn onest, yn aml mae trip hefo'r hogiau fel cael criw o blant mewn cae chwarae. "What happens on tour, stays on tour" ydi'r dywediad Saesneg felly rhaid cadw enwau'r euog allan o'r rhestr isod, ond ymhlith uchafbwyntiau'r tripiau yma mae:

  • Herio aelod o dîm nofio merched Cymru i gystadleuaeth press ups - ac yn lwcus i gael ail

  • Defnyddio techneg anarferol i wagio tafarn lawn yn Llundain (diet o kebabs rhai o'r criw dwi'n meddwl oedd yn gyfrifol)

  • Mynnu cael tynnu llun hefo "Bonnie Tyler" er gwaetha'r ffaith fod pawb arall yn dweud nad oedd hi'n edrych ddim byd tebyg i'r gantores o Abertawe

  • Camddealltwriaeth hefo dawnsiwr blin mewn loincloth a darn o rew

Ac mae llawer mwy wrth gwrs.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Deiniol gyda'i frawd a'i fab yn Stadiwm y Mileniwm rhyw ugain mlynedd yn ôl

Y dafarn leol

Ar benwythnosau pan nad oes trip am fod, yna tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon ydi'r lle i mi wylio'r gêm.

Tanllwyth o dân, y lle dan ei sang, Hen Wlad fy Nhadau yn atseinio oddi ar y waliau cerrig - a pheint da o gwrw yn gwmni i'r criw.

I ddilyn mae awr a hanner o weiddi ac ochneidio, canmol a chwyno, lot o felltithio, a phob un ohonon' ni'n arbenigwyr, sdim ots os nad ydan ni erioed hydynoed wedi chwarae'r gêm.

"O, dim Wayne Barnes sy'n reffio eto," "Cais cyn half time fysa'n dda," "Doedd hwnna 'rioed offside." A chyfeillion yn nodio eu pennau'n ddoeth mewn cytundeb - neu gilwenu'n dawel ar ambell sylw nad oedd yn arbennig o graff.

Pencampwriaeth wahanol eleni

Ddydd Sul d'wetha, gwylio'r gêm yn erbyn Iwerddon yn y tŷ oedd y drefn hefo rhyw ddiod fach yn fy llaw.

Roedd yna dipyn o weiddi - a do, fe gafodd y dyfarnwr, Wayne Barnes, ei chlywed hi fwy nag unwaith - ond tydi'o ddim yr un peth. Roedd hydynoed y ffôn yn gymharol dawel o ran negeseuon. Ydi, mae gwerth cymdeithasol y bencampwriaeth yr un mor bwysig â'r ornest ei hun.

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Mewn blwyddyn arferol, byddai miloedd o gefnogwyr wedi codi o'u seddi yn bloeddio wrth i Louis Rees-Zammit sgorio cais i Gymru yn erbyn y Gwyddelod yr wythnos diwethaf

Weithiau mae Cymru'n fuddugol, weithiau ddim.

Ond er gwaetha'r edrych ymlaen a'r gobeithio am fuddugoliaeth, os mai colli ydi'n hanes ar ddiwedd y gêm, fel arfer mae'n syndod pa mor gyflym mae'r siom yn diflannu.

Mae'r cymdeithasu a'r canu a'r ymdeimlad o undod yn parhau. Pawb mewn hwyliau da ac yn clebran yn uwch ac yn uwch wrth i'r noson ddatblygu. Y rhialtwch a'r bwrlwm yn parhau yn y dafarn, ac ar y strydoedd y tu allan.

Mae o'n donic go iawn, ond fydd o ddim yn digwydd eleni. Dwi'n edrych 'mlaen at flwyddyn nesa'n barod.

Hefyd o ddiddordeb: