Â鶹ԼÅÄ

Cynnig i gynnal etholiadau'r Senedd dros sawl diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
blwchFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib y gallai etholwyr fwrw pleidlais dros sawl diwrnod petai angen gohirio etholiadau'r Senedd eleni oherwydd y pandemig.

Does dim bwriad, fel y mae pethau'n sefyll, i symud dyddiad y bleidlais o 6 Mai, ond bydd Aelodau'r Senedd yn ystyried deddf yn ystod y dydd a fyddai'n caniatáu gohirio am hyd at chwe mis.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd eisiau newid cyfreithiol fyddai'n caniatáu pleidlais gynnar, fel sy'n digwydd eisoes mewn gwledydd eraill gan gynnwys Unol Daleithiau America.

Ond mae Llywodraeth y DU yn dadlau y byddai hynny'n amharu at etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throsedd, sy'n cael eu cynnal ar yr un pryd dan reolaeth San Steffan.

Mae safiad Llywodraeth y DU, medd gweinidogion Cymru, yn golygu y byddai cynnal pleidlais gynnar yn "amhosib" os yw etholiad Senedd Cymru'n digwydd ar 6 Mai.

Mae'n "glir" y dylid bwrw ymlaen gyda'r bleidlais ar 6 Mai, medd Llywodraeth Cymru, ond mae angen deddfwriaeth rhag ofn na fyddai'n ddiogel i gynnal etholiad ar y diwrnod hwnnw oherwydd y pandemig.

Y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James sy'n cynnig gwelliant i ganiatáu diwrnodau pleidleisio ychwanegol o fewn saith diwrnod i ddyddiad etholiad newydd.

Byddai ond modd defnyddio'r pwerau petai angen gohirio etholiad, a'i fod ddim yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau'r comisiynwyr heddlu.

Cadarnhaodd Llywodraeth y DU yr wythnos ddiwethaf eu bod am fwrw ymlaen gyda'u hetholiadau comisiynwyr heddlu ar y dyddiad gwreiddiol.

Mae hynny, o bosib, yn golygu y gellir gohirio etholiadau'r Senedd ond fyddai etholiadau'r comisiynwyr heddlu'n dal ymlaen ar yr un diwrnod.

15.1% oedd canran yr etholwyr wnaeth bleidleisio yn etholiadau'r comisiynwyr heddlu cyntaf yn 2012, pan nad oedd unrhyw etholiad cenedlaethol arall yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod.

Ni chafodd yr un bleidlais ei bwrw mewn un orsaf bleidleisio yng Nghasnewydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cefnogi'n gryf fesurau i wneud pleidleisio'n haws, yn enwedig oherwydd amgylchiadau'r pandemig, a byddwn wedi ffafrio trefnu pleidlais gynnar - fel sy'n digwydd mewn sawl gwlad ar draws y byd - ar gyfer etholiadau'r Senedd ar 6 Mai.

"Mae hyn wedi profi'n amhosib, oherwydd dan y cynlluniau presennol, bydd etholiadau'r Senedd ac etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu yn digwydd ar yr un diwrnod ac mae Llywodraeth y DU - sy'n gyfrifol am etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu - yn gwrthwynebu pleidleisio'n gynnar.

"Byddai'r gwelliant yma'n galluogi etholwyr Cymru i elwa o'r cyfle i fwrw pleidlais ar fwy nag un diwrnod petai'r etholiad yn cael ei ohirio a dim yn cael ei gynnal ar yr un pryd ag etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu."

Dywedodd Llywodraeth y DU fod dim angen pleidlais gynnar "gan fod etholwyr eisoes yn gallu pleidleisio'n gynnar trwy'r post, a byddai'r adnoddau ychwanegol i staffio gorsafoedd pleidlais gynnar yn gwneud yr etholiadau'n anos, gyda phwysau Covid-19".

Ychwanegodd fod modd i "awdurdodau lleol gysylltu â'r holl bobl glinigol fregus yn eu hardaloedd i'w hysbysu o opsiynau pleidlais trwy ddirprwy neu bleidlais bost".

'Angen eglurder ar frys'

Wrth ystyried deddfwriaeth frys Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth, fydd Aelodau'r Senedd hefyd yn trafod gwelliant yn caniatáu ymestyn cyfnod dod â thymor Senedd Cymru i ben.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Yn absenoldeb newid dramatig yn yr amgylchiadau, mae gennyf pob ffydd y gall swyddogion etholiad Cymru gynnal etholiad Senedd ddiogel, o ddysgu gwersi etholiadau lu ar draws y byd yn ystod y pandemig."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod angen "eglurder ar frys" ar yr hyn "sy'n cael ei ganiatáu'n gyfreithiol yn nhermau gweithgaredd ymgyrchu ymhob lefel" rheolau coronafeirws Cymru.