Plant 3-7 oed i ddychwelyd i ysgolion o 22 Chwefror

Ffynhonnell y llun, PA

Bydd plant rhwng tair a saith oed yn cael dychwelyd i'r ysgol wedi hanner tymor ar 22 Chwefror, yn dilyn cadarnhad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Dywed bod y plant ieuengaf yn cael blaenoriaeth am fod tystiolaeth yn awgrymu bod lefelau lledaenu'r feirws yn eu plith yn is, a'i bod hi'n fwy anodd i blant iau ddysgu o bell.

Yn ogystal bydd nifer fach o addysgwyr galwedigaethol yn cael dychwelyd i golegau - yn eu plith y rhai sy'n gwneud cyrsiau prentis.

"Mae'n anodd i'r rhain hefyd ddysgu ar-lein ac y mae'n rhaid iddynt gael hyfforddiant i gael cymwysterau ymarferol," medd y Gweinidog Addysg.

Cyn y cyhoeddiad roedd undebau addysg wedi galw am fwy o fanylion am y mesurau diogelwch fydd mewn grym, ac am weld y dystiolaeth wyddonol.

Mae undeb UCAC wedi croesawu'r cyhoeddiad, ond maent yn "cydnabod bod pryder gwirioneddol" gan athrawon, ac yn annog cynghorau ac ysgolion i ystyried "yn llawn" cyn ailagor.

Galwodd Plaid Cymru am fwy o arian i gyflogi mwy o athrawon, tra bod y Ceidwadwyr eisiau gwybod os yw'r undebau i gyd yn cefnogi'r cynllun.

£5m yn fwy i ysgolion

Wrth gyhoeddi'r penderfyniad, dywedodd Ms Williams: "Byddwn yn cynnwys nifer o fesurau ychwanegol i sicrhau diogelwch staff wrth iddyn nhw ddysgu wyneb yn wyneb - mae rhain yn cynnwys profi staff ddwywaith yr wythnos a bydd mwy o arian ar gyfer mygydau newydd.

"Bydd £5m yn cael ei roi i gefnogi ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol i fuddsoddi ymhellach er mwyn sicrhau diogelwch adeiladau.

"Ond mae'n hynod bwysig bod pob addysgwr, rhiant a gofalwr yn dilyn y canllawiau fel bod pawb yn ddiogel."

Wrth ateb cwestiwn ar ddiogelwch mewn ysgolion dywedodd bod yn rhaid i rieni gadw pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau wrth gatiau'r ysgol.

"Yr hyn sy'n digwydd o gwmpas yr ysgol sy'n peri'r pryder mwyaf i ni," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r graff gan Lywodraeth Cymru yn dangos y cwymp mewn achosion Covid-19 dros yr wythnosau diwethaf

Yn ystod y gynhadledd hefyd fe wnaeth Kirsty Williams AS gadarnhau fod y rhif R bellach yn is nag 1 a bod hynny wedi ei galluogi i wneud y penderfyniad am ddychwelyd i ysgolion.

Mae SAGE yn amcangyfrif bod y rhif R bellach rhwng 0.7 a 0.9.

Ar ei anterth roedd cyfradd yr achosion yn 650 ymhob 100,000 o'r boblogaeth, ond mae hynny bellach wedi gostwng i 127 - ac yn is na phan agorwyd ysgolion y tro diwethaf.

Dywed Ms Williams bod nifer y bobl mewn ysbytai gyda'r haint yn parhau yn uchel ond bod y nifer yn sefydlogi ac yn dechrau disgyn.

Cyn penderfynu ar y camau nesaf o ran caniatáu i fwy o blant ddychwelyd i'r ysgol, dywedodd y bydd y llywodraeth yn asesu effaith y cam cyntaf hwn yn ofalus.

Bydd plant gweithwyr hanfodol, plant mewn ysgolion arbennig a rhai sy'n gorfod mynd i'r ysgol oherwydd asesiadau arbennig yn parhau i fynychu ysgolion fel y maent wedi ei wneud yn ystod y pandemig.

Beth am ddisgyblion eraill?

Wrth ateb cwestiwn am gynlluniau ar gyfer disgyblion eraill na fydd yn dychwelyd i'r ysgol am y tro, dywedodd y Gweinidog Addysg y bydd hi'n amlinellu cynlluniau "tymor byr, canolig a hir" i helpu disgyblion.

Dywedodd Ms Williams bod y llywodraeth yn "poeni'n benodol am blant o dan anfantais".

Dywedodd hefyd bod y llywodraeth wedi llogi mwy na 1,000 o athrawon a chynorthwywyr dosbarth yn ychwanegol er mwyn cefnogi plant.

"Gydag amser byddwn yn amlinellu cynlluniau pellach er mwyn cefnogi athrawon a disgyblion," medd Ms Williams.

Mae Tegan Aspden o Gaerdydd yn fam i Cali sy'n 6 oed ac Erin sy'n 6 mis.

Mae hi wedi bod yn edrych ar ôl ei babi newydd yn ogystal â dysgu o adref, ac mae'n croesawu'r cyhoeddiad ddydd Gwener.

Disgrifiad o'r fideo, "Dwi'n cael mam guilt pan dwi'n edrych ar beth mae mamau eraill wedi bod yn 'neud"

"Dwi methu aros tan mae'r ysgolion yn agor eto - bydd Cali yn cael chwarae gyda'i ffrindiau a chael tipyn bach mwy o normality. Mae hefyd yn galluogi fi i roi fy holl egni i edrych ar ôl Erin heb deimlo'n euog am adael Cali mas, neu ddim yn dysgu hi fel ag a ddylwn i fod.

"Yn y lockdown cyntaf oedd e'n eitha' hawdd i fi achos o'n i dal yn gweithio, o'n i'n feichiog gydag Erin, ac oedd tad Cal yn dysgu hi o gartre'. Ond yn Awst cafodd Erin ei geni, ac ers hynny dwi 'di bod ar famolaeth ac yn dysgu Cali ar yr un pryd."

Ffynhonnell y llun, Tegan Aspden

Disgrifiad o'r llun, Dwi'n falch bod Cali yn cael dychwelyd i'r ysgol, medd ei mam Tegan Aspden

Wrth sôn am yr ail gyfnod clo dywedodd Tegan: "Ar y dechrau, 'nes i sylweddoli bod y cyfan yn cael effaith ar fy iechyd meddwl i, o'n i'n ffeindio'r holl beth yn anodd i edrych ar ôl y ddwy ferch ar ben fy hun, heb help, ac o'n i ddim yn mwynhau e fel ag y dylwn i.

"Mae mam guilt yn really difficult i fi ar y foment. Dwi'n enwedig yn teimlo'n fwy euog pan dwi'n mynd ar Instagram, neu Facebook, neu rywbeth, a fi'n gweld y mams eraill yn rhoi lluniau lan neu fideos lan o'r gwaith maen nhw'n 'neud gyda'u plant nhw.

"Wedyn fi'n edrych ar be' fi 'di 'neud yn y dydd, ac mae fel bron dim... mae jyst yn 'neud i chi deimlo'n drist a bo chi ddim yn 'neud digon.

"Dyw Cali ddim yn hoffi dysgu adref achos nid fi yw ei hathrawes. Fi yw mam Cali a 'dyw hi ddim yn gwybod pam fod popeth 'di newid. Dyw hi ddim yn deall be' sy' 'di digwydd, neu pam mae hi methu mynd i'r ysgol.

"Fi'n credu fi 'di crio bron pob dydd... Mae yn anodd, mae'n anodd i bawb, ond os ni jyst yn trio cadw i wenu, a chadw meddwl bod popeth yn mynd nôl i normality cyn bo hir - jyst tipyn bach i fynd."