Â鶹ԼÅÄ

Dyn yn y llys ar ôl i becyn amheus gael ei anfon i ffatri yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Police carsFfynhonnell y llun, PAULSALISBRUY15
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wockhardt nad oedd y digwyddiad wedi effeithio ar amserlen gynhyrchu'r brechlyn

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar ôl cael ei gyhuddo o anfon pecyn amheus i ffatri sy'n cynhyrchu brechlyn Covid-19 yn Wrecsam.

Ymddangosodd Anthony Collins, o Chatham, yn Llys Ynadon Medgway ddydd Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu bod Collins, 53, wedi ei gyhuddo o anfon eitem yn y post gyda'r bwriad o wneud pobl feddwl ei fod yn debygol y byddai'r eitem yn ffrwydro neu'n tanio.

Cafodd yr eitem ei dderbyn ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam ger ffatri Wockhardt ar 27 Ionawr.

Cafodd Collins, 53, ei arestio gan swyddogion Heddlu Caint yn Chatham y bore ar ôl y digwyddiad.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Caint nad oedd "yn ddyfais hyfyw".

Bydd Collins yn cael ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron yn Maidstone ar 26 Chwefror.

Cadarnhaodd cwmni Wockhardt brynhawn Mercher bod y gwaith o gynhyrchu'r brechlyn wedi ei atal am gyfnod, ond bod staff bellach wedi cael mynd yn ôl i'r adeilad.

Ni fydd yr oedi yn effeithio ar yr amserlen gynhyrchu, meddai'r cwmni.

Pynciau cysylltiedig