Â鶹ԼÅÄ

Diwydiant twristiaeth yn galw am ailagor erbyn y Pasg

  • Cyhoeddwyd
LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth twristiaid ddychwelyd mewn niferoedd sylweddol i hafanau glan môr Cymru, fel yma'n Llandudno, wedi'r cyfnod clo cyntaf

Mae Twristiaeth Gogledd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa arbennig i roi hwb i fusnesau sydd wedi dioddef oherwydd Covid, ac yn galw am ail-agor busnesau erbyn y Pasg.

Dywed y corff fod hyn yn holl bwysig er mwyn i fusnesau oroesi.

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gobeithio gweld busnesau yn agor unwaith y bydd hi'n ddiogel i hynny ddigwydd.

'Anodd iawn i ddal i fynd'

Dros y blynyddoedd mae parc cartio Glan y Gors ger Cerrigydrudion wedi denu pobol o bell ac agos, ac mae rhai o brif gystadlaethau'r byd cartio wedi cael eu cynnal yma.

Ond mae'r trac wedi bod yn dawel ers amser, ac mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ashley Davies o barc cartio Glan y Gors yn dweud fod angen i fusnesau twristiaeth agor ar frys

Ashley Davies a'r teulu sy'n rhedeg Glan y Gors.

Dywedodd Mr Davies: "Mae'n anodd iawn i ddal i fynd a 'da ni ddim yn siŵr be sy'n mynd i ddigwydd.

"'Da ni ddim yn gwybod be' sy'n digwydd… dydyn nhw ddim yn dweud wrtho ni yn iawn ddigon ymlaen llaw be sy'n mynd i ddigwydd."

Mae yna gryn edrych ymlaen yn fawr am y dydd y bydd Glan y Gors yn cael ail-agor.

"Fel busnes sydd genno ni yn fan hyn, 'da ni'n gwneud y pres yn yr haf… wedyn mae hwnnw'n gweld ni trwy'r gaeaf… 'da ni wedi colli dwy flwyddyn felly 'da ni'n gorfod agor rŵan," meddai.

Agor erbyn y pasg

Mae Twristiaeth Gogledd Cymru yn gobeithio y bydd modd ail-agor atyniadau twristiaeth erbyn y Pasg.

Os na fydd hynny'n bosib maen nhw am weld pecyn cymorth ychwanegol yn cael ei roi i fusnesau gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Gavin Harris, llefarydd ar ran Twristiaeth Gogledd Cymru: "Lles ac iechyd y cyhoedd sydd yn bwysig ac 'efo'r brechlyn yn cael ei rhoi allan rŵan falle ddyle bod na plan mewn lle... pryd ma' nhw'n gwybod bod cyfran fawr o'r boblogaeth wedi cael y brechlyn… bod ni wedyn yn gallu agor rhyw bedair wythnos neu beth bynnag ar ôl hynny.

"Ar hyn o bryd does na ddim llawer o wybodaeth… fase'n neis gallu agor erbyn y Pasg ond os na allwn ni, bydd yn rhaid i lletygarwch gael mwy o help perthnasol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin Harris yn rhedeg bwyty yn Rhuthun ac yn llefarydd ar ran Twristiaeth Gogledd Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn deall pryderon busnesau yn y diwydiant twristiaeth ac bod yn gobeithio gweld busnesau yn agor eto unwaith y bydd hi'n ddiogel i hynny ddigwydd.

Ychwanegodd bod mesurau cefnogi busnesau Llywodraeth Cymru ymysg y rhai mwyaf hael yn y Deyrnas Gyfunol, a bod dros £1.7bn o gefnogaeth ariannol wedi ei roi i fusnesau ers mis Mawrth.

"Mae arian eisoes yn cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden o'r gronfa sector-benodol gwerth £180m a agorodd ddydd Mercher, 13 Ionawr.

"Bydd Cymru yn aros yn Lefel Rhybudd 4 nes bod cyfraddau heintiau dan reolaeth. Rydym yn adolygu'r mesur ledled Cymru sydd ar waith o leiaf bob tair wythnos."

Pynciau cysylltiedig