Â鶹ԼÅÄ

Dechrau cynllun brechu cymunedol 'wedi mynd yn dda iawn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwerfyl Gregory'n derbyn ei dos cyntaf o'r brechlyn Pfizer yn NhÅ· Doctor, Nefyn
Disgrifiad o’r llun,

Gwerfyl Gregory'n derbyn ei dos cyntaf o'r brechlyn Pfizer yn NhÅ· Doctor, Nefyn

Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae cleifion wedi bod yn derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn Covid-19 mewn lleoliadau cymunedol fel rhan o gynllun peilot mewn tair ardal.

Mae disgwyl i 3,000 o gleifion gael eu brechu mewn meddygfeydd yn Nefyn, Bwcle a Pen-y-bont ar Ogwr dros y penwythnos.

Ond mae meddygon yn parhau i fynegi pryder ynghylch cael bwlch hirach rhwng rhoi dau ddos o'r brechlyn Pfizer.

Dywed BMA Cymru bod cael bwlch o 12 wythnos yn "hollol annerbyniol ac, o bosib, yn beryglus i staff a chleifion".

Mae'n rhaid storio'r brechlyn Pfizer ar dymheredd isel iawn, ac yna ei baratoi a'i roi i glaf o fewn chwarter awr.

Hyd yma mae'r brechlyn wedi cael ei roi mewn canolfannau mwy, gan fod hynny'n cael ei ystyried yn fwy ymarferol na'i ddarparu mewn meddygfeydd.

Fe wnaeth Dr Eilir Hughes, arweinydd clwstwr o feddygfeydd yn Nwyfor, helpu trefnu'r cynllun peilot yn yr ardal honno.

"Mae pethau wedi mynd yn dda iawn," meddai. "Rydan ni wedi cyrraedd ein targed o frechu cannoedd o bobl bore ma'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae diwrnod cyntaf y cynllun peilot wedi mynd 'yn dda iawn' yn Nefyn, medd Dr Eilir Hughes

"Wnawn ni'n un peth p'nawn 'ma' ac eto 'fory. Tua 1,200 fydd y cyfanswm.

"Mae'r cleifion yn dod o dair meddygfa, ond mae'n well, yn ymarferol, i frechu o un safle."

'Modd gwneud hyn ar draws Cymru'

Mae meddygon teulu yn Lloegr wedi bod yn rhoi'r brechlyn Pfizer i gleifion ers mis Rhagfyr, gan gynnwys mewn safleoedd fel eglwysi a chlybiau rygbi.

Dywed Dr Hughes ei fod wedi "methu deall beth oedd y rhwystr pam ein bod ni yng Nghymru ddim yn cael y cyfle" i wneud yr un peth yn gynt, o siarad gyda ffrindiau sy'n feddygon teulu dros y ffin.

Disgrifiad o’r llun,

Cleifion yn ciwio tu allan i'r feddygfa yn Nefyn ddydd Sadwrn

"Mi ddaru ni lwyddo i roi y ddadl i Lywodraeth Cymru," meddai. "A 'den ni wedi profi y penwythnos yma bod modd ei wneud yn effeithlon ac yn saff ac mewn lle sy'n gyfleus i bobl, yn enwedig pobl hÅ·n sydd efo peth taith i Fangor.

"'Den ni wedi gwneud hyn mewn dau ddiwrnod. Os bydd gennoch chi fwy o amser i baratoi, fedra' i ddim gweld pam na fydd modd gwneud hyn ar draws Cymru."

"Mae'n bleser i allu rhoi y brechlyn yma i'n cleifion ni. Mae'r rhan fwyaf heb fod allan o'u tai am gyfnod o flwyddyn.

"Mae'n ddiwrnod mawr ac mi dybiwn i ei fod o'n brafiach i'w roi yn eu cymuned eu hunain efo wynebau cyfarwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna wahaniaeth barn ynghylch hyd y bwlch rhwng dau ddos brechlyn Pfizer

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA wedi galw am lai o fwlch - chwe wythnos yn lle 12 - rhwng rhoi dos gyntaf ac ail ddos brechlyn Pfizer, i sicrhau fod pobl yn cael yr amddiffyniad gorau.

Yn ôl Adran Iechyd San Steffan sicrhau bod y brechlyn yn cael ei ddosbarthu mor fuan â phosib oedd y prif reswm dros ymestyn y bwlch.

Mewn ymateb i'r gwahaniaeth barn, dywedodd Dr Eilir Hughes: "Os ydi'r brechlyn yna, peidiwch â'i adael i bentyrru.

"Mae angen i ni ei gael ym mreichiau pobol oherwydd mae'r dos cyntaf yn rhoi rhywfaint o fudd o fewn wythnos. Dyna be' mae astudiaethau Pfizer wedi'i ddangos."

'Annerbyniol ac, o bosib, yn beryglus'

Mae meddygon yng Nghymru'n "parhau'n bryderus iawn ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i lynu at uchafswm o 12 wythnos" rhwng y ddau ddos, medd Cadeirydd BMA Cymru, Dr David Bailey.

"Gwyddwn am lefel ragorol amddiffyniad yr ail ddos o gael ei roi wedi tair wythnos," meddai. "Does dim tystiolaeth pa mor effeithiol fyddai ail ddos wedi 12 wythnos.

"Mewn gwirionedd, mae yna newyddion pryderus o Israel sy'n awgrymu fod gohirio'r ail ddos yn rhoi llai o amddiffyniad.

"Mae hyn yn hollol annerbyniol ac, o bosib, yn beryglus i staff a chleifion."

Mae'r Gymdeithas, meddai Dr Bailey, yn parhau i alw am "yr amddiffyniad mwyaf posib" i staff iechyd rheng flaen "fel eu bod yn ddiogel i drin cleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol".

Ychwanegodd bod "dim gwlad arall yn Ewrop yn dilyn yr un strategaeth" â gwledydd y DU, sy'n wahanol i argymhellion Sefydliad Iechyd Byd, a bod angen dychwelyd i'r amserlen a awgrymwyd yn wreiddiol "i ni allu lleihau'r straen ar y GIG a brwydro'n erbyn y pandemig".

'Dilyn y cyngor diweddaraf'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn dilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf, fel yr ydym wedi ei wneud gydol y pandemig.

"Mae hynny'n cynnwys cyngor y pedwar Prif Swyddog Meddygol, sy'n cytuno... y dylid blaenoriaethu rhoi dos cyntaf i gymaint o bobl â phosib yn y grwpiau risg uchel, yn hytrach na rhoi dau ddos mewn cyfnod cyn lleied â phosib".

Yn ôl ffigyrau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd nifer y rhai sydd wedi cael eu brechiad cyntaf wedi codi i o leiaf 240,547.

Roedd hynny'n gynnydd o 28,230 mewn 24 awr ac mae'n golygu bod o leiaf 7.6% o'r boblogaeth wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn.

Pynciau cysylltiedig