Llifogydd: 'Pwysedd dŵr gormodol mewn siafft o bosib'

Dywed yr awdurdodau sy'n ymchwilio i lifogydd Sgiwen ei bod hi'n bosib mai gormod o bwysedd dŵr mewn siafft a'u hachosodd.

Dywedodd Carl Banton o'r Awdurdod Glo, ei bod hi'n debygol, bod yr holl law wedi llenwi'r system ddraenio a bod hynny wedi effeithio ar y siafft.

Ychwanegodd bod swyddogion wedi edrych ar y siafftiau eraill ac nad oedd pryder y byddent yn dymchwel.

"Mae'r canfyddiadau cyntaf," meddai Mr Banton, "yn dangos bod dŵr o bosib wedi cronni ar ochr y bryn a bod hwnnw wedi mynd mewn i'r siafft gan achosi llifogydd yn y pentref.

"Mae'r llif yn gostwng ... ond beth sy'n anodd ei ganfod ar hyn o bryd yw a ddaeth llif ychwanegol o ddŵr i'r siafft," ychwanegodd.

Dywedodd hefyd bod y gweithfeydd bellach yn ddiogel ond y bydd gwaith ymchwilio pellach yn digwydd ddydd Sadwrn.

Nos Wener hefyd dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot na fyddai'n bosib i bobl ddychwelyd i'w cartrefi dros y penwythnos oherwydd rhesymau diogelwch.

Fore Gwener fe wnaeth diffoddwyr tân ddychwelyd i'r pentref gyda phympiau dŵr pwerus i glirio dŵr y llifogydd.

Disgrifiad o'r llun, Doedd Teresa Dalling ddim yn ymwybodol o fodolaeth yr hen byllau glo gerllaw tan y digwyddiad ddydd Iau

Mae Teresa Dalling yn byw yn y pentref ac yn pryderu'n fawr am y sefyllfa. Wrth siarad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru fore dydd Gwener, dywedodd:

"Dydw i heb gysgu. Roeddwn i'n codi i fynd i'r drws cefn bob dwyawr i edrych ar lefel y dŵr.

"Wyddwn i ddim ein bod ni'n byw ger hen byllau glo ac os oes un wedi disgyn fy ofn i yw y gallai mwy ddilyn ac mae hynny'n frawychus."

Dychwelodd John Thomas adref o angladd gyda'i wraig Lynne ddydd Iau i ddarganfod bod eu tÅ· wedi troi'n "lyn", meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales.

"Roedd y dŵr o gwmpas lefel gwaelod y drysau fel nad oedd modd i ni fynd i mewn, felly roedd yn rhaid i ni sefyll yno a gwylio'r dŵr lliw oren yma'n codi i fyny ac i fyny ac i fyny."

Dywedodd Mr Thomas nad oedd yn gallu mynd i mewn i achub ei eiddo gan fod y dŵr at ei ganol.

Ychwanegodd: "Rydyn ni mewn tipyn o bant ar y ffordd, felly fe allech chi ei weld yn dod i fyny yn raddol, roedden nhw'n poeni y gallai fod wedi bod yn geudwll oherwydd y pyllau glo.

"Mae'n bendant yn waith mwynglawdd, dim ond trwy edrych ar liw'r dŵr, mae'n lliw oren.

"Cafodd pobl eraill gyfle i symud pethau i fyny'r grisiau, ond ches i ddim cyfle i wneud hynny oherwydd ni allwn fynd i mewn."

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd un sy'n byw yn lleol ei bod "byth wedi gweld" llifogydd tebyg o'r blaen

Roedd mwy na 30 o drigolion cartref gofal Cwrt-Clwydi-Gwyn ymhlith y rhai gafodd eu symud rhag ofn ddydd Iau.

Roedd hyd at 45 o ddiffoddwyr tân yn rhan o'r digwyddiad pan roedd ar ei waethaf.

Disgrifiad o'r llun, Mae criwiau tân wedi dychwelyd i Sgiwen fore Gwener gyda phwmpiau arbenigol

Daw'r trafferthion yno yn dilyn glaw trwm Storm Christoph, wnaeth arwain hefyd at symud pobl o'u cartrefi ym Mangor Is-Coed ger Wrecsam, a Rhuthun, Sir Ddinbych.

Bydd pob cartref sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd yng Nghymru yn gallu gwneud cais am hyd at £1,000 i helpu'r gwaith o'i adfer, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Beth yw'r broblem yn Sgiwen?

Mae Sgiwen o fewn hen ardal cloddio glo, gyda sawl hen safle pwll glo ger y pentref o'r 19eg a dechrau'r 20fed ganrif.

Roedd safleoedd pwll glo yn y pentref ger yr hyn sydd bellach yn Ffordd Drumau, yng ngogledd y pentref ac un arall yn agos at Abaty Castell-nedd.

Roedd Sgiwen yn rhan o gasgliad o lofeydd rhwng Castell-nedd a Llanelli ar un adeg.

Dywedodd Graham Levins, ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Pyllau Cymru, fod hen fwyngloddiau yn aml yn cynnwys dŵr tanddaearol all orlifo mewn glaw trwm.

"Mae llawer ohonyn nhw'n mynd yn ddwfn iawn, iawn i lawr, llawer is na lefel y dŵr yn lleol a dyna pam roedd ganddyn nhw'r olwynion mawr i bwmpio'r dŵr allan.

"Mae'n llenwi â dŵr a bydd yn dod o hyd i ffordd allan. Fel rheol, nid yw'r glaw rydych chi'n ei gael yn achosi llawer o broblemau, ond pan fyddwch chi'n cael glaw trwm iawn mae'r dŵr yn draenio i lawr trwy'r ddaear ac yn cronni."