'Meithrinfeydd ar ymyl y dibyn' yn ystod y pandemig

Ffynhonnell y llun, Little Stars

Disgrifiad o'r llun, Plant meithrinfa Little Stars yn cael stori

Mae meithrinfeydd "yn agos at ymyl y dibyn" yn ystod y pandemig, yn ôl un perchennog.

Dywed Emma Matthews o feithrinfa Little Stars ym Mhont-y-pŵl fod angen cymorth ar ôl i'r niferoedd sy'n mynychu ostwng o 35%, tra bod ei staff yn hefyd yn poeni am weithio heb offer PPE.

Yn wahanol i ysgolion, mae meithrinfeydd wedi aros ar agor yn y cyfnod clo, ac mae'r sector yn gofyn am dystiolaeth wyddonol sy'n cefnogi'r penderfyniad hwnnw.

Maen nhw hefyd yn galw am fwy o arian i helpu'r busnesau oroesi ac ar i staff gael blaenoriaeth o ran derbyn brechlyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod nifer yr achosion positif mewn plant dan bump oed yn parhau'n isel.

Dywedodd Ms Matthews y bydd busnesau yn ei chael yn anodd goroesi drwy'r flwyddyn, heb unrhyw gymorth ychwanegol.

Fe wnaeth Little Stars roi rhai o'u staff ar ffyrlo yn ystod y cyfnod clo fis Mawrth diwethaf, gyda meithrinfeydd ond ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ar ôl cau yn ystod y cyfnod clo cyntaf, mae meithrinfeydd wedi parhau ar agor ers haf 2020

Fe wnaeth y meithrinfeydd ailagor yn yr haf, ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac maen nhw wedi parhau ar agor ers hynny.

Ond mae nifer o rieni wedi penderfynu peidio ag anfon eu plant yn ôl - rhai oherwydd eu bod yn ofnus, eraill oherwydd eu bod yn hunan-ynysu neu eu bod wedi colli swydd neu ar ffyrlo ag yn methu talu.

Cyn y pandemig, roedd y feithrinfa yn gofalu am 65 o blant pob diwrnod - ond yr wythnos diwethaf roedd yna 47 yn bresennol.

Hefyd roedd disgwyl i 11 o fabanod ddechrau yn Ionawr, ond dim ond un sydd wedi mynychu hyd yma.

'Gwerthfawrogi'r gwasanaeth'

Dywedodd Ms Matthews fod staff hefyd yn bryderus am ddal yr haint.

Dywedodd nad oedd yn bosib gwisgo offer diogelwch oherwydd y cyswllt agos gyda phlant.

Oherwydd hyn dywed Ms Matthews y dylai'r staff gael eu hystyried yn flaenoriaeth wrth i bobl gael eu brechu a'u profi.

Fe wnaeth y feithrinfa dderbyn cymhorthdal o £10,000 ddechrau'r pandemig, a chymorth talu trethi o £1,000. Ond dywed Ms Matthews fod y dyfodol yn ddu.

"Mae e' ynglŷn â gwerthfawrogi'r gwasanaeth sy'n cael ei roi. Doedd e' ddim mewn cyflwr hynod o sefydlog cyn covid."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed Cymdeithas Meithrinfeydd Dyddiol - NDNA Cymru - eu bod am weld Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau er mwyn "talu am lefydd i blant, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu mynychu ar hyn o bryd."

Maen nhw hefyd am roi blaenoriaeth i'r staff o ran y cynllun brechu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod lefelau positif yn parhau yn gymharol isel ymhlith plant dan bump oed.

Ychwanegodd fod ar gael i helpu plant sy'n gymwys, a bod arian yn cael ei roi i gynghorau lleol er mwyn caniatáu iddynt helpu roi gofal plant pan yn briodol.

O ran brechu, dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor sydd wedi ei roi can y Cydbwyllgor ar Frechu - ac y bydd pawb yn y grwpiau blaenoriaeth yn cael eu brechu mor gyflym â phosib.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holand: "Mae meithrinfeydd yn chwarae rhan hynod bwysig o ran lles a datblygiad plant ifanc, ac mae unrhyw wasanaethau sy'n gallu parhau ar agor i blant i'w croesawu."