Cyhoeddi ymgynghoriad ar gamau i sicrhau aer glân

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgynghoriad ar gael gwared ar losgi glo a phren gwlyb yn raddol mewn cartrefi, ynghyd â chynigion ar gyfer deddf aer glân newydd i Gymru, wedi ei gyhoeddi.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwahardd defnyddio glo traddodiadol mewn cartrefi'n gyfan gwbl o 2023 ymlaen.

Bydd gwerthu coed gwlyb hefyd yn cael ei gyfyngu'n sylweddol mewn ymgais i fynd i'r afael â llygredd aer.

Dim ond y stofiau llosgi coed mwyaf effeithlon fydd ar gael i'w prynu a'u gosod cyn bo hir.

Mae mesurau tebyg eisoes wedi'u cyhoeddi yn Lloegr.

Mae gweinidogion hefyd wedi datgelu mwy o fanylion y Bil Aer Glân arfaethedig, er nad oes amser i'w droi'n fesur cyfreithiol tan ar ôl etholiadau'r Senedd ym mis Mai.

Byddai'r bil yn gosod targedau ansawdd aer newydd a'r disgwyliad y byddai adolygiad o gynlluniau i fynd i'r afael â llygredd aer bob pum mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae gwaharddiad ar losgi coed gwlyb a glo mewn cartrefi yn dod i rym yn Lloegr yn ddiweddarach eleni

Byddai awdurdodau lleol yn cael mwy o rymoedd i fynd i'r afael â cherbydau sydd yn segura, gan gynnwys tu allan i ysgolion a lleoliadau gofal iechyd, a byddai'r cosbau y gallan nhw eu rhoi yn cynyddu.

Yn ogystal â Pharthau Aer Glân a Pharthau Allyriadau Isel mewn trefi a dinasoedd, mae'r potensial i weithredu "parthau cartref" ar raddfa fach hefyd yn cael ei ystyried - lle gallai strydoedd gael eu cau i draffig neu eu cyfyngu i rai cerbydau i wella ansawdd aer wrth alluogi plant i chwarae.

Credir bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at gymaint â 1,400 o farwolaethau'r flwyddyn, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gydag ymgyrchwyr wedi disgrifio lefelau mewn rhannau o'r wlad fel "gwarth".

Dywedodd gweinidog yr amgylchedd, Lesley Griffiths, mai "prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cadw ein cymunedau'n ddiogel a chefnogi teuluoedd a busnesau trwy'r pandemig Covid-19".

"Ond yn union fel Covid, mae llygredd aer yn effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf difreintiedig a bregus yn ein cymdeithas.

"Rwy'n croesawu barn y cyhoedd, academyddion, elusennau a busnesau fel ei gilydd, i'n helpu i baentio darlun clir o sut y byddwn yn gwella ansawdd ein aer ac ar y cyd yn adeiladu ein llwybr i Gymru wyrddach ac iachach."

'Gwahaniaeth go iawn'

Wrth groesawu'r mesur, dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Cymru o Goleg Brenhinol y Meddygon (RCP), ei bod yn bryd gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl gyda "deddfwriaethu uchelgeisiol".

"Fe ddylai iechyd y genedl fod yn flaenllaw ym mhob un o benderfyniadau'r llywodraeth, yn enwedig pan fyddwn yn ailadeiladu ar ôl y pandemig Covid-19," meddai.

"Mae llygredd aer yn effeithio ar bawb. Mae'n ffactor mewn strôc, clefyd y galon, y fogfa, ac mae'n gallu achosi canser.

"Bob blwyddyn mae dros 2,000 o fywydau'n cael eu cwtogi o ganlyniad i ansawdd yr aer, a thrwy wneud targedau ansawdd aer yn gyfraith, gallai Deddf Aer Glân helpu pawb yng Nghymru i fwynhau manteision aer glân.

"Ond fedrwn ni ddim gwastraffu amser. Dylai'r Bil a'i reoliadau gael eu pasio cyn gynted â phosib. Mae'n bryd gwneud gwahaniaeth go iawn trwy ddeddfwriaethu uchelgeisiol."