Â鶹ԼÅÄ

Ysgolion Cymru ddim i agor tan 18 Ionawr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgybl yn gweithio ar Hwb adref

Bydd disgyblion ysgolion cynradd, uwchradd a cholegau yn parhau i gael eu haddysgu o adref nes 18 Ionawr ar y cynharaf.

Daeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru wedi i'r prif weinidog, Mark Drakeford, gyfarfod gyda chynrychiolwyr o'r undebau athrawon brynhawn dydd Llun, a chyfarfod o arweinwyr pedair gwlad y DU.

Wedi'r cyfarfod hwnnw daeth cyhoeddiad bod prif swyddogion meddygol y bedair gwlad wedi cytuno i symud y DU gyfan i rybudd Lefel 5, sef y lefel uchaf.

Mae'r lefel yna yn golygu bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perygl o gael ei lethu'n llwyr gan coronafeirws.

Nid yw symud y lefel rhybudd yn effeithio'n uniongyrchol ar y cyfyngiadau dydd i ddydd sydd yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Yn gynharach yn y dydd fe wnaeth Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, gyhoeddi y byddai'r wlad yn symud i gyfnod clo llym ar unwaith, ac nos Lun fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, gyfyngiadau tebyg yn achos Lloegr.

Gan fod Cymru eisoes ar y lefel llymaf o gyfyngiadau heblaw am ysgolion, fe fydd Cymru i bob pwrpas mewn cyfnod clo llwyr tan 18 Ionawr hefyd.

Ysgolion

Roedd disgwyl i holl blant ysgol Cymru ddychwelyd i addysg ffurfiol erbyn 18 Ionawr, gyda'r mwyafrif o blant yn dychwelyd ar 11 Ionawr.

Ond yn dilyn y cynnydd yn yr amrywiad newydd o Covid-19 roedd Llywodraeth Cymru o dan bwysau i ymestyn y cyfnod lle na fyddai plant yn cyfarfod o fewn dosbarth.

Mae'r cynghorau sir wedi cael gwybod am y trefniadau newydd ac yn paratoi ar gyfer y newid.

Roedd rhai undebau wedi bygwth achos cyfreithiol dros bryderon ynghylch yr amrywiad newydd mwy heintus o coronafeirws.

Roedd disgwyl i rai ysgolion uwchradd agor ddydd Mercher, yn ôl rhai awdurdodau lleol.

Brynhawn dydd Llun - cyn cyhoeddiad y llywodraeth - cyhoeddodd cynghorau Powys a Gwynedd na fyddai'r mwyafrif o ddysgwyr yn mynd nôl i'r ysgol cyn dydd Llun 11 Ionawr ac y byddai disgyblion cynradd ac uwchradd yn derbyn addysg ar-lein.

Roedd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru eisoes wedi galw am ohirio dysgu wyneb yn wyneb tan o leiaf 18 Ionawr.

Ddydd Sul, fe wnaeth datganiad ar y cyd gan naw undeb alw am benderfyniad cenedlaethol ar ailagor ysgolion yn hytrach na'i adael i gynghorau lleol.

'Heintus iawn'

Daw cyhoeddiad Mr Drakeford wrth i wybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddangos bod yr amrywiad mwy newydd y tu ôl i gynnydd mewn achosion yn y gogledd.

Yng nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod cau ysgolion yn parhau i fod yn "ddewis olaf".

Ond ychwanegodd "os bydd y dystiolaeth yn newid yna bydd yn rhaid i ni ystyried y dystiolaeth honno ac fe allai hynny arwain at ddewis gwahanol".

Dywedodd hefyd fod niferoedd y gogledd yn cynyddu er ei fod yn syrthio mewn mannau eraill.

Mae nifer y cleifion Covid-19 mewn unedau gofal dwys ar ei lefel uchaf ers y gwanwyn gyda'r sefyllfa yn un "ddifrifol iawn" medd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Gething fod cyfradd achosion Cymru wedi gostwng o 636 achos fesul 100,000 o bobl ar 17 Rhagfyr i 446 o achosion heddiw.

Ychwanegodd rhaid bod yn ofalus wrth ddehongli'r ffigyrau ynglŷn â gostyngiad am fod llai o bobl wedi eu profi dros gyfnod y Nadolig, meddai.

Dywedodd fod y gyfran o bobl sy'n cael profion positif yn parhau i fod yn uchel iawn ar 25%.