Â鶹ԼÅÄ

Dechrau darparu brechlyn newydd Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ralph Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ralph Evans yn derbyn y brechlyn AstraZeneca ym Merthyr Tudful

Mae'r broses o ddarparu'r ail frechlyn coronafeirws i gael ei gymeradwyo yn y DU wedi dechrau yng Nghymru ddydd Llun.

Cafodd y cam o gynnig brechlyn newydd Oxford-AstraZeneca ei ddisgrifio gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fel "carreg filltir allweddol yn ein brwydr yn erbyn pandemig Covid-19".

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai o leiaf 40,000 dos ar gael o fewn y pythefnos cyntaf, gyda 22,000 yn ei dderbyn yr wythnos hon.

Fe fydd angen dau ddos, gyda bwlch o rhwng pedair a 12 wythnos rhwng y ddau.

Dywedodd y llywodraeth y bydd nifer y canolfannau brechu yng Nghymru yn cynyddu i 22, ac y bydd dros 60 o feddygfeydd yn helpu i ddarparu'r brechlyn newydd.

Mae dros 35,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn cyntaf a gymeradwywyd i'w ddefnyddio ledled y DU - sef brechlyn Pfizer-BioNTech.

Mae'r rhain yn cynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, preswylwyr a staff cartrefi gofal, a phobl dros 80 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd maer Merthyr, Derek Games, ymhlith y rhai gafodd ei brechu ddydd Llun

Yn wahanol i frechlyn Pfizer-BioNTech, mae brechlyn Oxford-AstraZeneca yn cael ei storio ar dymheredd oergell brechlyn arferol.

Ni fydd anawsterau felly o ran storio a chludo, sy'n ei gwneud hi'n llawer haws i'w ddefnyddio mewn cartrefi gofal a meddygfeydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi bod yn paratoi ar gyfer cymeradwyo a darparu'r brechiadau ers mis Mehefin, gyda chymorth GIG Cymru.

Bydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn derbyn dyraniad yn gymesur â maint ei boblogaeth a'i allu i gyflawni'r gwaith o'i ddosbarthu, meddai Llywodraeth Cymru.

Cyngor yn parhau

Dywedodd swyddogion hefyd na fydd effeithiau'r brechlynnau i'w gweld yn genedlaethol o bosib am fisoedd lawer, ac mae'r cyngor am gadw pellter dau fetr oddi wrth eraill, golchi dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen ac osgoi cyffwrdd ag arwynebedd gwrthrychau y mae eraill wedi eu cyffwrdd yn parhau.

Gofynnwyd i bobl hefyd beidio â ffonio eu meddyg teulu, fferyllfa neu ysbyty i ofyn pryd y byddant yn cael brechlyn ac i aros i gael eu gwahodd i fynychu clinig pwrpasol.

Dywedodd Mr Gething: "Mae heddiw'n nodi carreg filltir allweddol yn ein brwydr yn erbyn pandemig Covid-19. Dywedwyd bod cyflwyno brechlyn AstraZeneca yn newid pethau yn llwyr, ac mae hyn yn wir - ni ddylid tanbrisio ei botensial.

"Mewn llai na mis, mae GIG Cymru wedi cyflwyno'r rhaglen frechu fwyaf a welwyd erioed yng Nghymru, ac mae mwy na 35,000 o bobl wedi cael y dos cyntaf hyd yma.

"Nawr, bum diwrnod yn unig ers i reoleiddwyr gymeradwyo'r brechlyn newydd i'w ddefnyddio yn y DU, mae ail frechlyn yma ac yn barod i'w ddefnyddio, gan ychwanegu'n sylweddol at allu Cymru i frwydro yn erbyn y coronafeirws a diogelu ein poblogaeth fwyaf agored i niwed."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brechlyn AstraZeneca wedi cael ei ddylunio gan wyddonwyr o Brifysgol Rhydychen

Dywedodd Dr Gillian Richardson, sy'n gyfrifol am raglen brechu Cymru: "Mae'n newyddion gwych bod gennym nawr ail frechlyn i helpu i ddiogelu pobl fwyaf agored i niwed ein cymunedau rhag niwed Covid-19.

"Bydd pa mor gyflym y caiff ei gyflwyno yn dibynnu ar gyflenwad, gan ddechrau'n araf yr wythnos hon a chynyddu'n sylweddol dros yr wythnos a'r misoedd nesaf.

"Fodd bynnag, bydd brechiadau'n cael eu rhoi mewn meddygfeydd o heddiw ymlaen a byddwn hefyd yn gweld cynnydd yn nifer ein canolfannau brechu yn ystod y mis.

"Mae'n hollbwysig bod pobl yn parhau i aros eu tro am y brechlyn - byddwn yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro.

"Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu na'ch fferyllfa leol, gan roi pwysau diangen ychwanegol ar eu baich gwaith."