Dechrau torri llarwydd heintiedig ym Mryniau Clwyd

Ffynhonnell y llun, ian driscoll/Getty Images

Mae gwaith ar fin dechrau i gael gwared o goed llarwydd heintiedig o goedwig boblogaidd ym Mryniau Clwyd.

Mae'r coed llarwydd Japan yng Nghoed Moel Famau, ger Yr Wyddgrug, wedi eu heintio â'r clefyd Phytophthora ramorum.

Yn ôl amcangyfrif Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bydd angen torri arwynebedd o 10 hectar, sy'n cyfateb yn fras i 10 cae rygbi.

Bydd y gwaith, medd CNC, "yn rhoi cyfle inni ailgynllunio'r goedwig ar gyfer y dyfodol".

Bydd lorïau contractwyr yn cludo'r pren yn ystod dyddiau'r wythnos gan ddefnyddio ffyrdd cludo preifat CNC a'r draffordd gyhoeddus.

Cau llwybrau dros dro i ymwelwyr

Er mwyn diogelu'r cyhoedd a lleihau'r risg o drosglwyddo'r clefyd ymhellach, bydd rhaid cau neu ddargyfeirio rhai o lwybrau'r goedwig dros dro i ymwelwyr.

Mae yna apêl i'r cyhoedd "ufuddhau i arwyddion a gwyriadau er eu diogelwch eu hunain".

"Nid ydym yn hoffi cau mynediad i'n coedwigoedd, gan ein bod yn gwybod i ba raddau y cânt eu gwerthfawrogi gan bobl leol," meddai Aidan Cooke, Uwch Swyddog Gweithrediadau Coedwig CNC.

"Ond yn yr achos hwn dyma'r ateb gorau i gwblhau'r gwaith yn ddiogel a heb oedi.

"Byddwn yn gwneud popeth allwn ni i sicrhau fod y gwaith yn amharu gyn lleied ag sydd bosibl ar bethau, a phan fo'n ddiogel gwneud hynny byddwn yn ailagor rhannau o'r goedwig wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen."

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae strategaeth ar draws Cymru i atal lledaeniad clefyd coed llarwydd

Nododd arolygon yn 2013 fod y clefyd yn lledu'n gyflym drwy goedwigoedd Cymru, gan arwain at strategaeth genedlaethol i gael gwared ar goed heintiedig i atal yr haint rhag lledaenu ymhellach.

"Mae clefyd y llarwydd wedi cael effaith ddramatig ar ein coedwigoedd yng Nghymru, a bydd hyn yn amlwg yn arbennig yng Nghoed Moel Famau," meddai Aidan Cooke.

"Pan fydd y gwaith cwympo wedi'i gwblhau, rydym yn bwriadu plannu coed newydd, gan gynnwys cymysgedd o rywogaethau llydanddail brodorol."

Bydd hynny, meddai, "yn dechrau'r gwaith o adfywio ardaloedd o goetiroedd brodorol ac amrywiaeth ehangach o gonwydd, a fydd yn helpu'r goedwig i fod yn fwy cadarn er mwyn inni allu parhau i'w mwynhau am flynyddoedd lawer i ddod".