Â鶹ԼÅÄ

Coronafeirws: Canllawiau diwrnod Nadolig gwahanol iawn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pryd Nadolig teuluolFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yn fwriad yn wreiddiol i lacio'r cyfyngiadau am bum niwrnod i roi cyfle i bobl ddathlu'r Nadolig gyda'u hanwyliaid ar ddiwedd blwyddyn heriol.

Ond yna daeth i'r amlwg fod amrywiolyn newydd, mwy heintus Covid-19 ar led yng Nghymru, a daeth cyfnod clo newydd i rym - gydag oriau yn unig o rybudd - dros wythnos yn gynt na'r bwriad yn wreiddiol.

Mae'r mesurau diweddaraf ond yn caniatáu i bobl ddathlu'r ŵyl fel rhan o swigen ar ddiwrnod Nadolig ei hun yn unig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod rhaid newid y trefniadau oherwydd "allwn ni ddim gosod pobl mewn perygl o ddal y math newydd, mwy heintus o coronafeirws".

Beth yw'r rheolau?

  • Gall dwy aelwyd ffurfio swigen Nadolig unigryw, ond mae'n bosib hefyd i berson sy'n byw ar ben ei hunain ymuno â swigen. Rhaid i bawb fod yn rhan o un swigen Nadolig yn unig, a does dim modd newid swigen ar ôl ei ffurfio.

  • Mae plant dan 18 oed yn cael fod yn rhan o swigen Nadolig eu dau riant os nad yw'r rhieni'n byw gyda'i gilydd.

  • Mae hawl gan unigolion i ffurfio swigen Nadolig gyda phobl wahanol i'r rhai mae'n nhw'n byw gyda nhw, fel arfer. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys myfyrwyr yn dychwelyd adref am y Nadolig.

  • Gall pobl deithio i unrhyw le yn y DU i fod yn rhan o swigen Nadolig, yn amodol ar y rheolau yn yr ardaloedd perthnasol, ond mae'n rhaid teithio yno ac yn ôl adref ar 25 Rhagfyr.

  • Wrth dreulio diwrnod Nadolig fel rhan o'r swigen, mae yna gyngor i bobl wneud yn siŵr bod mannau sy'n cael eu cyffwrdd, fel dolenni drysau ac arwynebau, yn cael eu glanhau'n aml.

  • Os yn ymweld â rhywun am gyfnod byr yn unig, mae'n rhaid cadw pellter cymdeithasol gymaint â phosib oddi wrth aelodau aelwydydd eraill.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynghori pobl i ystyried y risgiau'n "ofalus cyn cytuno i ffurfio swigen", gan awgrymu "defnyddio technoleg a chyfarfod yn yr awyr agored" fel ffyrdd eraill o ddathlu Nadolig yng nghanol pandemig.

Mae'r llywodraeth hefyd yn parhau i bwysleisio'r camau sylfaenol i leihau lledaeniad y feirws, a sicrhau diwrnod Nadolig mor ddiogel â phosib.

Mae'r camau hynny'n cynnwys golchi dwylo'n fanwl a rheolaidd, hunan-ynysu os yn datblygu symptomau neu'n cael prawf coronafeirws positif, a sicrhau bod mannau dan do'n cael gymaint o awyr iach â phosib.

Bydd Cymru'n parhau ar Lefel 4 ar ôl diwrnod Nadolig, sy'n golygu bod rhaid i bawb aros adref oni bai bod ganddyn nhw esgus rhesymol dros adael.

Bydd dim hawl cwrdd â phobl o gartref arall, oni bai am aelodau swigen gefnogaeth, ac mae siopau nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol ar gau.

Pynciau cysylltiedig